Llywydd y Cynulliad: 'Achub y blaen'
|
Mae system dreuliau newydd Aelodau Cynulliad yn dod i rym gyda'r bwriad o atal aelodau rhag hawlio arian ar gam. Fe fydd lwfansau ariannol yn diflannu ac ni fydd modd hawlio arian heb dderbyneb. Roedd panel annibynnol o dan gadeiryddiaeth Syr Roger Jones wedi adolygu sut y gallai Aelodau Cynulliad hawlio cyflog a lwfansau am deithio, llety, ariannu swyddfeydd etholaeth a staff cymorth. Mae 28 o argymhellion allan o 108 yn dod i rym ddydd Llun. Ymhlith y rhain mae torri'r cysylltiad rhwng cyflog Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol. Ni fydd Aelodau Cynulliad yn gallu hawlio lwfans cyfradd wastad o £30 oddi cartre na hawlio am gelfi nag eitemau ar gyfer ail gartre. Fe gafodd adroddiad Yn Gywir i Gymru ei gyhoeddi wedi ymchwiliad 10 mis. 'Ymhell cyn helynt' "Pan gafodd y panel ei sefydlu yn 2008 nod Comisiwn y Cynulliad oedd dangos i'r cyhoedd eu bod yn ymroi i fod yn dryloyw," meddai Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas. "Roedd yr ymroddiad ymhell cyn helynt y treuliau yn San Steffan." Dywedodd y byddai'r argymhellion yn cryfhau'r cyswllt â phobl Cymru o ran bod yn gorff deddfu. "Mi ydan ni wedi achub y blaen ac yn pellhau oddi wrth helynt San Steffan. "Mae ymateb Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn gyflym ac yn gefnogol." Eisoes mae treuliau a lwfansau Aelodau Cynulliad yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cynulliad, gan gynnwys manylion rhwng Ionawr a Mawrth eleni. Clustogau Mae'r manylion diweddara'n dangos bod AC Llafur y Canolbarth a'r Gorllewin, Alun Davies, wedi hawlio £115.69 am eitemau yn ei ail gartre, gan gynnwys clustogau a bin bara. Roedd Mick Bates, AC Democratiaid Rhyddfrydol Maldwyn, wedi hawlio £275 am garped ac AC Wrecsam Lesley Griffiths wedi hawlio £45 am ddillad gwely. Mae rhai wedi hawlio lwfans cyfradd wastad o £30.35 ar gyfer prydau bwyd. O dan y drefn newydd mae'r hawliau hyn am eitemau a phrydau bwyd yn diflannu.
|