Marina: Roedd cynigion yn y nawdegau
|
Mae cwmni'n gobeithio ailgyflwyno cynllun marina ar gyfer 400 o leoedd ar Ynys Môn. Fe gafodd y cynllun gwerth £17m ei gyflwyno gynta yn y nawdegau. Roedd Cwmni Cychod Môn wedi cael caniatâd cynllunio ond fe gymeroddd pysgotwyr cregyn gleision gamau cyfreithiol, gan ddadlau y byddai'r datblygiad yn effeithio ar eu bywoliaeth. Mae'r cwmni'n bwriadu ailgyflwyno cynlluniau oherwydd gallai gwelliant i Ddeddf Pysgodfeydd 1962 olygu y byddai modd newid neu ddileu gorchmynion. Dywedodd Rupert Jones o'r cwmni: "Fe fydd y ddeddf yn newid ym mis Tachwedd ... rydan ni'n aros i weld beth fydd yn digwydd. "Rydan ni o'r farn nad oes angen gwrthdaro rhwng cynllun y marina a'r diwydiant. "Ar wahân i'r pysgotwyr cregyn doedd dim llawer o wrthwynebwyr.
Newid yn y ddeddf: Gwelliant i Ddeddf Pysgodfeydd 1962
|
"Mi fydd y cynllun yn golygu swyddi y mae mawr eu hangen yn yr ardal hon." Dywedodd y pysgotwyr y bydden nhw'n herio cynllun newydd ym Mhenrhyn Safnes. "Dydan ni ddim yn erbyn marinas fel y cyfryw," meddai James Wilson o gwmni Deepdock. "Ond dydan ni ddim yn fodlon ar farina yng nghanol ardal lle 'dan ni'n pysgota." £500,000 Yr amcangyfri yw bod y frwydr wedi golygu £500,000 o gostau cyfreithiol i'r cyngor a Stad y Goron. Yn Chwefror eleni penderfynodd yr Uchel Lys fod y cynllun yn anghyfreithlon ond apeliodd y cyngor. Penderfynodd yr Uchel Lys ei wrthod ar sail gorchymyn wnaed yn 1962 i greu ardal pysgota cregyn am 60 mlynedd. Ym mis Mai fe gollodd y cyngor yr hawl i apelio i Dŷ'r Arglwyddi. Dywedodd arweinydd y cyngor, Clive McGregor: "Mi oedd dyletswydd foesol arnon ni i herio safbwynt y pysgotwyr. "Y ni yw perchnogion y tir ... mi oedd yn bwysig ein bod ni'n cael hawl i'w ddefnyddio." Roedd datblygwyr wedi honni nad oedd safle addas arall ac y byddai hyd at 150 o swyddi'n cael eu creu ac economi'r ynys ar ei hennill o £10m y flwyddyn. Eye on Wales, Radio Wales, nos Lun, 6.30pm.
|