British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 31 Hydref 2009, 11:31 GMT
Llai o farwolaethau, medd cyngor

Cerbyd heddlu
Cyngor: Cynlluniau diogelwch yn effeithiol

Mae Cyngor Powys wedi dweud bod nifer marwolaethau ffyrdd wedi lleihau mewn tair blynedd.

Dywedodd swyddogion fod cynlluniau diogelwch wedi bod yn effeithiol.

Yn 2006 roedd mwy na 60% o farwolaethau beicwyr modur ardal Heddlu Dyfed-Powys yn y sir.

Erbyn hyn, dim ond 36% sy yn y sir.

Yr wythnos hon dywedodd Roger Williams, AS Democratiaid Rhyddfrydol Brycheiniog a Maesyfed, fod mwy o ddamweiniau marwol a difrifol ym Mhowys yn 2008 nag unman arall yng Nghymru.

Roedd ystadegau, meddai, yn dangos bod y sir ar frig y rhestr damweiniau am chwe blynedd yn olynol.

'Cydweithio'

Ond mae'r sir wedi dweud bod ystadegau damweiniau, yn enwedig damweiniau beiciau modur, yn llai ers 2006.

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym Evans, sy'n gyfrifol am ddiogelwch ffyrdd: "Rydan ni'n dal i gydweithio â phartneriaid eraill, gan gynnwys yr heddlu a'r gwasanaethau brys, wrth gynllunio prosiectau.

"Mae 84 wedi bod yn rhan o'r cynllun asesu beicwyr modur ac yn 2008 fe gafodd 223 o yrwyr ifanc cyffredinol eu hyfforddi o dan gynllun Pass Plus Cymru.

"Tra bod y cynlluniau'n effeithiol, dydan ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau a'r nod yw lleihau nifer y rhai sy'n cael eu lladd a'u hanafu."



HEFYD
Damweiniau: 'Angen gweithredu'
29 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific