British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 30 Hydref 2009, 17:28 GMT
Anthracs: 'Angen atebion'

Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith
Aelod Seneddol: 'Mae pobol yn poeni'

Mae Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith, wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ba fathau o arfau gafodd eu profi ger glannau Penrhyn Gŵyr a Phorth Tywyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Eisoes mae'r weinyddiaeth wedi cadarnhau bod bom yn cynnwys y bacteriwm peryglus anthracs wedi cael ei ollwng i'r môr yn yr ardal ym 1942.

Ond dywedodd nad oedd yr ardal wedi ei heintio'n barhaol.

Mae anthracs yn facteria peryglus sy'n gallu lladd pobl ac anifeiliaid o fewn dyddiau os nad wythnosau.

Cafodd ei ollwng ar ynys bellenig yn yr Alban - ac yng Nghymru, mae'n debyg.

'Sioc fawr'

Mewn llyfr newydd mae'r hanesydd lleol Alwyn Jones yn awgrymu y cafodd arf yn cynnwys anthracs ei ddefnyddio yng nghyffiniau Penrhyn Gŵyr.

"O'dd hi'n sioc fawr i glywed beth o'dd wedi digwydd," meddai.

"Yn sicr, gobeithio y bydd y weinyddiaeth yn rhyddhau'r manylion."

Dywedodd yr AS: "Mae'n bwysig fod pobol yn gofyn cwestiyne ... beth ddigwyddodd? Odyn nhw wedi clirio lan yn dda?

"Mae pobol yn poeni am safon y dŵr ... a'r effeth ar y diwydiant cocos."



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific