British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 30 Hydref 2009, 13:51 GMT
Ymchwiliad Irac: 'Diffyg parch'

Irac
Bydd gwrandawiadau cyhoeddus cyntaf yr ymchwiliad yn cael eu cynnal yn Llundain

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi beirniadu'r ymchwiliad i ryfel Irac am fod teuluoedd milwyr o Gymru wedi gorfod teithio i Loegr i roi tystiolaeth.

Dywedodd aelod seneddol Meirionnydd Nant Conwy, Elfyn Llwyd, bod hynny'n dangos "diffyg parch" i rôl milwyr o Gymru.

Bydd gwrandawiadau cyhoeddus cyntaf yr ymchwiliad yn cael eu cynnal yn Llundain fis nesaf.

Mae eraill wedi eu cynnal ym Manceinion a Bryste.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymchwiliad, sy'n cael ei arwain gan Syr John Chilcot, bod y cyfarfodydd wedi eu trefnu "i fod yn gyfleus i'r teuluoedd".

Yn ôl Mr Llwyd: "Mae nifer fawr o filwyr o Gymru wedi mynd i Irac i ymladd mewn rhyfel anghyfreithlon a nawr mae'r ymchwiliad yn dangos diffyg parch iddyn nhw".



HEFYD
Irac: Gwasanaeth er cof am filwyr
09 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific