Ms Hart: un o'r tri yn y ras i olynu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru
|
Mae Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis Thomas wedi beirniadu'r gyflwynwraig Angharad Mair am ei sylwadau am y Gweinidog Iechyd Edwina Hart. Mewn colofn yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Angharad Mair bod Ms Hart wedi rhoi "cic go salw i addysg Gymraeg" pan ddywedodd Ms Hart ei bod yn "pryderu nad yw rhai ysgolion Cymraeg yn adlewyrchu'r cymunedau o'u cwmpas". Roedd y colofnydd wedi dehongli sylwadau'r ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid Lafur fel rhai "sy'n fwriadol elyniaethus i addysg Gymraeg". Ond mewn llythyr yn y rhifyn cyfredol o Golwg, mae Llywydd y Cynulliad yn tynnu sylw at rai o weithredoedd Aelod Cynulliad Gŵyr. "Does bosib mai dyma'r un fenyw pan yn Weinidog Cyllid a fynnodd adeiladu Senedd deilwng i Gymru a'i galw ar yr enw hwnnw, yn wahanol i rai ACau o'i phlaid?" Ychwanegodd ei bod hefyd wedi rhoi enwau Cymraeg fel Hywel Dda, Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr ar y byrddau iechyd newydd. Mae'n crynhoi trwy ddweud: "Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir gwleidyddion. Onid doeth fyddai i Angharad Mair ddysgu hynny cyn dilyn gyrfa wleidyddol ei hun?" Yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick: "Mae'r llythyr yn gam anarferol oddi ar rôl amhleidiol Llywydd y Cynulliad ac yn cael ei weld fel cerydd i un o ffigyrau ei blaid ei hun".
|