Peter Hain: 'Datganoli yn golygu bod Cymru eisoes yn darparu pwerau deddfu'
|
Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi dweud na ddylid cynnal refferendwm gynnar o ran mwy o bwerau deddfwriaethol. Eisoes mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i refferendwm ar y mater erbyn mis Mai 2011. Rhybuddiodd Mr Hain, y mae angen ei gymeradwyaeth ar gyfer refferendwm, y gallai unrhyw bleidlais o fewn y ddwy flynedd nesa gael ei cholli. Ond dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Elin Jones fod rhaid iddo esbonio pam fod pobl yng Nghymru yn llai abl na'r Albanwyr i greu deddfau sy'n berthnasol i'w gwlad eu hunain. Roedd Mr Hain i Ganolfan Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd dair wythnos cyn bod Confensiwn Cymru Gyfan yn cyhoeddi adroddiad am bwerau'r cynulliad. Yr wythnos hon awgrymodd pôl piniwn YouGov y byddai mwyafrif etholwyr o blaid pwerau ychwanegol i'r cynulliad. 'Galw cynyddol' Awgrymodd y pôl y byddai cyfran fawr o bleidleiswyr am i Lywodraeth y Cynulliad alw refferendwm - 63% o blaid a 20% yn erbyn. Dywedodd Mr Hain ei fod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd pobl Cymru eisiau cynulliad â phwerau deddfu llawn ond bod y diwrnod heb gyrraedd eto. Mewn erthygl yn y Western Mail ddydd Iau dywedodd: "Mae nifer o bobl wedi clywed y galw cynyddol am refferendwm y flwyddyn nesa ar bwerau deddfu llawn ar gyfer y cynulliad a hynny, mae'n debyg, heb ystyried a yw'n bosibl ennill. 'Ychydig o bobl' "Dim ond ychydig o bobl, fodd bynnag, sydd wedi clywed bod datganoli yng Nghymru yn darparu'r pwerau deddfu llawn yna o San Steffan a hynny'n gyflymach fyth." Ond dywedodd Ms Jones, y Gweinidog Materion Gwledig, mai "dim ond nifer fach o Aelodau Seneddol sy'n wirioneddol gredu bod y system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn gweithio'n dda - ac ni ddylai fod yn sioc mai Mr Hain, pensaer y system, yw un ohonyn nhw". Dywedodd fod pôl yr wythnos hon yn cadarnhau bod pobl Cymru yn barod ar gyfer pwerau ychwanegol "ac am i fwy o benderfyniadau gael eu cymryd yn nemocratiaeth agored, dryloyw a chyfranogol y cynulliad".
|