Mae disgwyl i wasanaeth fferi gychwyn ym mis Ebrill fydd yn cysylltu Abertawe â'r harbwr yn Ilfracombe ar arfordir gogleddol Dyfnaint.
Bydd y siwrnai yn cymryd rhyw 50 munud ar fferi 'Flying Cat' sydd â seddi i hyd at 360 o deithwyr. Does dim lle i gerbydau arni.
Y bwriad yw cychwyn gyda dau wasanaeth y dydd ond y gobaith yw cynnig pum siwrnai bob dydd yn ôl y galw.
Mae'r cwmni sydd tu ôl i'r fenter, Severn Link, yn dweud y bydd tocyn dwy ffordd yn costio £22.
40 staff
Bydd £3m yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaeth gyda Severn Link yn cyflogi 40 staff. Mae siwrnai o Abertawe i Ilfracombe mewn car, yn ôl y cwmni, yn cymryd bron pedair awr ac yn costio dwywaith cymaint.
"Hyd y gwn i, does yna ddim darn o ddŵr unrhyw le yn y byd sydd yn cysylltu dwy ardal boblog fel y rhain sydd heb wasanaeth fferi poblogaidd," meddai Chris Marrow, cadeirydd Severn Link, ac un o'r rhai fu'n gyfrifol am ail gychwyn y gwasanaeth fferi rhwng ynysoedd Erch ac Orkney.
Yn ogystal â denu twristiaid i Abertawe a'r de orllewin, dywedodd Chris Marrow: "Mi fydd y fferi yn creu gwasanaeth i dwristiaid o dde orllewin Lloegr a'r rhai sydd yn teithio drwy'r rhan yna o Brydain, sydd am fynd ar eu gwyliau i'r Iwerddon.
"Gall y bobl yma ddefnyddio'r gwasanaeth fferi newydd rhwng Abertawe a Cork."
Nid dyma fydd y tro cyntaf i fferïau deithio rhwng Abertawe a gogledd Dyfnaint. Tan ryw ugain mlynedd yn ôl roedd y llongau a oedd yn cael eu hadnabod yn lleol fel y 'Steamers' yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Abertawe ac Ilfracombe, Weston-Super-Mare a Clevedon.
Hyd heddiw mae'r fferi Waverley yn dal i gludo twristiaid rhwng de Cymru a gogledd Dyfnaint yn ystod misoedd yr haf.
Bydd y gwasanaeth newydd yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.