British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Hydref 2009, 07:14 GMT
Llifogydd: 'Dim modd rhoi sicrwydd'

Amddiffynfeydd
Mae 260 milltir o amddiffynfeydd rhag y môr yng Nghymru

Mae'r dull o reoli effaith y môr a llifogydd yn gostus ac yn amhosib i'w gynnal, yn ôl corff sy'n monitro gwariant cyhoeddus.

Dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd modd rhoi sicrwydd i bobl na fyddan nhw'n diodde o effeithiau llifogydd.

Felly, meddai, y dewis yw ceisio rheoli'r risg.

Yn yr adroddiad dywedodd y corff gwarchod fod newid hinsawdd a'r ffaith fod lefel y môr yn codi yn cynyddu'r risg o lifogydd.

Mae tua 60% o boblogaeth Cymru'n byw mewn ardaloedd arfordirol.

"Mae'r amcangyfrifon presennol yn dangos y bydd cost y difrod oherwydd llifogydd o leia'n dyblu neu o bosibl yn cynyddu ugain gwaith dros yr 80 mlynedd nesaf," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Archwilio.

Dylai Llywodraeth y Cynulliad, meddai, ddangos arweinyddiaeth gryfach wrth geisio rheoli'r risg.

£1.4 biliwn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod yr adroddiad yn cydnabod fod gweinidogion yn dilyn "y trywydd cywir".

Mae 600,000 o bobl yng Nghymru'n byw neu'n gweithio mewn ardaloedd sy'n wynebu risg o lifogydd.

Amcangyfrifir ei bod yn bosib y gallai'r gost o ddifrod llifogydd godi o £70m i £1.4 biliwn dros y 80 mlynedd nesa.

Mae yna tua 260 milltir o amddiffynfeydd rhag y môr yng Nghymru sy wedi costio tua £750 miliwn.

Y gyllideb ar gyfer rheoli risg llifogydd yn 2009-10 yw £41miliwn.

Dywedodd yr adroddiad fod polisi'r llywodraeth sy'n seiliedig ar asesiad risg yn gywir ond bod angen gwell arweinyddiaeth wrth ddelio â'r cynghorau lleol.

Ymhlith yr ardaloedd yn yr adran risg uchel mae'r arfordir rhwng Bae Cinmel a Llandudno, Tywyn yng Ngwynedd, Aberaeron, Aberystwyth a'r Borth yng Ngheredigion a Gwastadeddau Gwent.

Residents bail out a flooded home in Treforest, Pontypridd
'Dim modd rhoi sicrwydd na fydd pobl yn diodde o effaith llifogydd'

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman: "All yr amddiffynfeydd llifogydd sy'n bodoli eisoes ddim ymdopi â newid amgylcheddol

"Felly mae angen i ni ailystyried o ddifrif ein dull o ddiogelu'r arfordir drwy fabwysiadu dull sy'n fwy seiliedig ar risg.

"Gobeithio y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried fy argymhellion yn eu gwaith gyda phartneriaid ac yn cyflwyno dull newydd yn seiliedig ar risg ar waith a fydd yn gynaliadwy yn y ganrif nesaf."

Dywedodd Jane Davidson AC, Gweinidog yr Amgylchedd, ei bod yn croesawu'r adroddiad ac yn dweud y dylai gwleidyddion o bob plaid ei ddarllen.

"Mae'r adroddiad yn gofyn i ni newid ein pwyslais - a dilyn polisi sy'n seiliedig ar asesiad risg," meddai.

"Dyma'n union y gwnaethon ni yn 2007.

"Rydyn ni wedi cydnabod ers amser nad yw polisi sy'n seiliedig ar rwystro llifogydd yn gynaliadwy.

"Ni allwn rwystro llifogydd ond fe allwn geisio lleihau'r effaith ar ein cymunedau."



HEFYD
Llifogydd: Polisi newydd
24 Medi 07 |  Newyddion
Datgelu cynllun atal llifogydd
12 Medi 08 |  Newyddion
£12.5m i atal llifogydd
06 Meh 05 |  Newyddion
Cynnig system rhybudd llifogydd
06 Chwef 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific