British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Hydref 2009, 14:53 GMT
Hufenfa: Colli 93 o swyddi

Ffatri gaws Llandyrnog
Yn gynharach yn y flwyddyn y prynodd y cwmni'r hufenfa

Mae 93 o bobl yn colli eu swyddi mewn hufenfa yn Sir Ddinbych.

Cwmni Milk Link brynodd yr hufenfa yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, ar ôl i gwmni Ffermwyr Llaeth Prydain fynd i'r wal ym mis Mehefin.

Roedd y cwmni cydweithredol wedi colli cytundeb ag archfarchnad ac yn ei chael hi'n anodd i dalu pris cystadleuol i 1,800 o ffermwyr am eu llaeth.

Wedyn awgrymodd adolygiad fod "lefelau staffio'n rhy uchel".

Mae Milk Link, sy'n cyflogi 160, wedi penderfynu symud gwaith gynhyrchu i'w ffatri yng Nghroesoswallt.

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n canolbwyntio ar gynhyrchu dim ond caws yn Llandyrnog.

'Gresynu'

Roedd cyfnod o ymgynghori â'r gweithwyr a'r undebau cyn y penderfyniad terfynol.

Mae'r cwmni wedi dweud bod 30 o bobl yn Llandyrnog wedi gwneud cais am ddiswyddo gwirfoddol.

Dywedodd Tony Merrett o'r cwmni: "Rydym yn gresynu at gyhoeddi hyn a'r effaith ar y rhai sy'n wynebu colli eu gwaith.

"Mae'r gweithwyr wedi bod yn gydwybodol ... rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau yn arwain at well effeithlonrwydd - ac elw."

Fe fyddai'r newidiadau'n golygu dyfodol cynaliadwy yn y tymor hir, meddai.



HEFYD
Ffatri gaws: Taro bargen
11 Meh 09 |  Newyddion
Ffatri gaws: Achub 160 o swyddi
08 Meh 09 |  Newyddion
Cytuno i werthu safle ffatri
06 Meh 09 |  Newyddion
Pryder am 2,000 o swyddi
03 Meh 09 |  Newyddion
Ffatri: Ffermwyr yn anhapus
01 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific