Mae'r gangiau wedi taro ardaloedd Betws, Glanaman a Rhydaman
|
Mae'r heddlu yn rhybuddio perchnogion tai i fod yn ofalus rhag pobl sy'n cnocio ar ddrysau yn gofyn am help ariannol. Yn aml, yn ôl yr heddlu, mae'r bobl yn honni mai ychydig iawn o Saesneg sydd ganddyn nhw. Credir eu bod yn gweithio mewn gangiau. Eisoes maent wedi targedu ardaloedd Betws, Glanaman a Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin. Maent yn dangos cerdyn ac yn adrodd eu stori, sef eu bod am ariannu eu haddysg neu am help ar gyfer perthynas sy'n glaf. Dywed yr heddlu mai celwydd yw'r straeon ac mae'r un sy'n galw sy'n cael yr arian. Dywedodd y Swyddog Diogelwch Cymunedol Rob Chapman: "Yn syml, mae'r bobl yma'n torri'r gyfraith os nad oes ganddynt drwydded addas i werthu o ddrws i ddrws. "Rwy'n annog pawb i wrthod yn gwrtais a pheidio â rhoi arian."
|