British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Hydref 2009, 07:45 GMT
Dyslecsia: Iaith yn peri pryder

Cardiau Dyslecsia
Mae un o bob 10 person yn diodde o ddyslecsia

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi beirniadu'r ddarpariaeth Gymraeg i blant sydd â dyslecsia.

Yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Menter a Dysgu mae diffyg darpariaeth ar gyfer sgrinio ac asesu plant am ddyslecsia drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd sôn hefyd bod rhai plant yn cael eu symud o ysgolion cyfrwng Cymraeg i ysgolion Saesneg er mwyn cael gwell cefnogaeth.

Croesawodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad yr adroddiad gan ddweud eu bod yn comisiynu rhagor o ymchwil i wasanaethau dyslecsia yn wyneb yr adroddiad hwn.

Dilyniant yw adroddiad y pwyllgor i'w archwiliad i'r ddarpariaeth o gefnogaeth i blant sydd â dyslecsia a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2008.

Mae'r argymhellion yn yr adroddiad diweddaraf yn cynnwys:

  • Athro neu athrawes arbenigol ar gyfer pob clwstwr o ysgolion cynradd.
  • Sefydlu cyrsiau i hyfforddi athrawon i ddatblygu arbenigedd mewn dyslecsia, nid anghenion dysgu ychwanegol yn unig.
  • Dylai'r cyrsiau hyfforddi mewn dyslecsia fod ar gael i staff sy'n gweithio gyda phlant yn yr ystafell ddosbarth.
  • Dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer sgrinio a chefnogi plant sydd â dyslecsia.
  • Dylai Llywodraeth y Cynulliad gyllido Prosiect Dyslecsia Cymru i gynnal llinell gymorth am ddim ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru, yn y Gymraeg a'r Saesneg.

'Anghyson'

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg Jane Hutt ei bod yn ddiweddar wedi cytuno i ddarparu £2 filiwn dros dair blynedd i sefydlu cynlluniau peilot i ddiwygio'r system gyfredol a sefydlu cyd-drefnwyr anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ôl yr adroddiad mae pryder hefyd fod y cymorth sy'n cael ei gynnig gan wahanol gynghorau yn anghyson.

Yn ôl Gareth Jones AC, cadeirydd y pwyllgor: "Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar sicrhau bod modd adnabod dyslecsia yn gynnar a chynorthwyo pobl sydd â dyslecsia yn Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd."

Arolwg

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad: "Mae'n hanfodol fod plant a phobl ifanc yn cael mynediad i brofion sydd yn addas o ran iaith, oedran a safon.

"Er mwyn cyflawni argymhellion y pwyllgor yn llawn a chyflawni anghenion plant a phobl ifanc sydd â dyslecsia rydym wedi comisiynu ymchwil pellach.

"Fel rhan o'r gwaith yma mae pynciau ychwanegol wedi eu hychwanegu i gynnwys arolwg ar lenyddiaeth traws-ieithyddol ar ddyslecsia a'r gwaith cyfredol ar ddyslecsia ymysg siaradwyr a darllenwyr Cymraeg."



HEFYD
Dyslecsia: Profion ar blant
11 Rhag 07 |  Newyddion
Tom yn cael blas ar fusnes
30 Tach 07 |  Newyddion
Hwb i blant dyslecsig Cymraeg
17 Ion 07 |  Newyddion
Genyn o bosib yn achosi dyslecsia
03 Maw 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific