British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Hydref 2009, 18:38 GMT
Hofrennydd: Beirniadu peilot

Damwain hofrennydd
Clywodd y cwest fod yr hofrennydd wedi bod yn hedfan yn isel

Clywodd cwest i farwolaethau tri aelod o'r lluoedd arfog nad oedd gan beilot hofrennydd ddigon o brofiad i hedfan mor isel ag y gwnaeth.

Roedd y peilot, David Sale, yn un o'r tri a laddwyd yn y ddamwain yng ngogledd swydd Efrog ym mis Awst 2007.

Bu farw Philip Burfoot, 27 oed o Gaerdydd hefyd.

Yn ôl y Crwner, Geoff Fell, fe gyfrannodd diffygion yn RAF Benson at y ddamwain

Bu farw preifat Sean Tait, 17 oed o Glasgow, o'i anafiadau dau ddiwrnod ar ôl y ddamwain

Cofnodwyd rheithfarn naratif, gyda'r crwner yn beirniadu'r rhai oedd yn rheoli RAF Benson.

 David Sale a   Phillip Burfoot
David Sale a Phillip Burfoot

Pwrpas yr ymarferiad milwrol oedd dod ag aelodau'r fyddin yn gyfarwydd â'r defnydd o hofrenyddion wrth frwydro.

Roedd nifer o filwyr dibrofiad yn rhan o'r ymarferiadau

Dywedodd un tyst, gyrrwr tacsi, fod yr hofrennydd wedi dod o fewn pum troedfedd i'w gar.

Yn ystod y gwrandawiad cafodd tap ei chwarae oedd yn cofnodi dwy awr ola yr hediad.

Arno, clywyd y peilot yn dweud ei fod am roi braw i'r gyrrwr tacsi.

Clywodd y cwest hefyd fod cân Johnny Cash 'Ring Of Fire' yn cael ei chwarae ar uwch-seinydd yr hofrennydd.

Dywedodd Mr Fell fod aelodau'r criw ar y diwrnod tyngedfennol yn 'ddibrofiad' a'u bod yn hedfan heb fod arolygydd yn gwylio.

Ar ôl yr achos Dywedodd y Capten Jonathan Burr, uwch reolwr RAF Benson, fod newidiadau eisoes wedi eu gwneud.

"Rydym wedi newid y modd rydym yn goruchwylio, rheoli ac yn gosod tasgau, yma a thramor.

"Rydym wedi gwneud hyn er mwyn ceisio sicrhau na fydd camgymeriadau, yn cael eu hail-hadrodd."

Ar ddiwedd yr achos dywedodd teulu Mr Burfoot eu bod yn gobeithio fod gwersi wedi eu dysgu o'r hyn ddigwyddodd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific