British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Hydref 2009, 10:07 GMT
Gwario £7.5m ar ailddatblygu ysbyty

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Ailddatblygu: 'Gwella gofal cleifion ac amodau gwaith staff'

Mae £7.5m oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad yn cael ei wario ar brosiect sy'n rhan o ailddatblygu Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, meddai'r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart.

Yn gynta, fe fydd hen weithdai a storfeydd yn cael eu dymchwel, meysydd parcio'n cael eu codi a Ward Cadwaladr yn cael ei hadnewyddu.

Wedyn y bwriad yw codi uned gofal brys, uned famolaeth, theatrau newydd a gwella'r adran gleifion allanol - wedi i gynllun busnes terfynol Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda gael ei gymeradwyo.

Mae £40m wedi ei glustnodi ar gyfer y cynllun cyfan.

Dywedodd y gweinidog: "Mae'r buddsoddi'n dangos ein hymroddiad tymor hir i'r ysbyty.

"Rhaid dweud nad yw'r cyfleusterau damweiniau a brys ar hyn o bryd yn ateb y gofyn.

'Paratoi'r ffordd'

"Fe fydd y cam cynta'n paratoi'r ffordd ... pan fydd y cynllun busnes terfynol yn cael ei dderbyn fe allwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith pellach.

"Dwi'n disgwyl derbyn y cynllun busnes erbyn mis Mawrth 2010."

Dywedodd y byddai trefniadau mewn lle er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra i'r ysbyty ac y byddai'r cyfleusterau newydd yn gwella "gofal y cleifion ac amodau gwaith y staff".

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Chris Martin, wedi dweud: "Rydyn ni'n falch iawn ... fe fydd y cam cynta'n gwella gwasanaethau i bobol Ceredigion, Gogledd Powys a De Gwynedd.

"Fe fydd y cynllun cyfan yn gyffrous ac yn dangos ein hymroddiad i gleifion ac i ddyfodol yr ybyty."

Fe gymeradwyodd y gweinidog y cynllun busnes amlinellol ym mis Mehefin 2008.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Oedi sganio'n peryglu bywydau
08 Awst 02 |  Newyddion
Sganiwr yn hwb yn erbyn canser
01 Awst 02 |  Newyddion
Sganiwr newydd £1.3 m i ysbyty
07 Tach 06 |  Newyddion
Meddyg cansyr yn gadael Cymru
07 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific