British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Hydref 2009, 06:43 GMT 07:43 UK
Cofio trychineb y Royal Charter

Moelfre
Pentref Moelfre ar Ynys Mn

Mae pobl Moelfre ar Ynys Môn wedi nodi 150 mlynedd ers trychineb llong y Royal Charter.

Ddiwedd Hydref 1859 bu farw 450 o bobl wrth i'r llong oedd yn dychwelyd o Awstralia daro'r creigiau mewn storm.

Ar y pryd, hon oedd y drychineb forwrol fwya erioed oddi ar arfordir Prydain.

Dim ond 50 llath o'r tir oedd y llong pan aeth hi i drafferthion ac fe aeth rhai o bobl y pentref i achub yr ychydig oedd wedi goroesi.

Roedd y digwyddiadau dros y penwythnos yn cynnwys dadorchuddio placiau efydd y tu allan i Wylfan Moelfre.

Y cerflunydd ydi Sam Holland oedd yn gyfrifol am y cerflun i goffâu'r cocsyn Dick Evans a gafodd fedal aur am ei ddewrder yn achub criw yr Hindlea aeth i drafferthion yn yr un man, union ganrif wedi trychineb y Royal Charter.

Dadorchuddio

Ar ddydd Gwener yn Ysgol Gymunedol Moelfre roedd plant ysgol leol yn cyflwyno drama am hanes y drychineb.

Ddydd Sadwrn am 11am roedd placiau'n cael eu dadorchuddio cyn taith gerdded i'r safle lle tarodd y Royal Charter y creigiau.

Yna yn y prynhawn roedd y bad achub yn cael ei lansio - a criw'n dangos sut y cafodd rhaff ei defnyddio i dynnu pobl i'r lan yn 1859.

"Mae'n biti mawr nad oes yr un o griw'r bad achub lwyddodd i achub criw'r Hindlea yn dal yn fyw", meddai Gwenda Parry oedd yn trefnu'r digwyddiadau.

"Bu farw'r olaf o'r criw ddeufis yn ôl ond mae yna bobl eraill yn y pentref sy'n dal i gofio'r digwyddiad ym 1959."

Brynhawn Sul am 4.30pm roedd yng Nghapel Moelfre gyda Llio Evans, Elin Fflur, Côr y Traeth, Aelwyd yr Ynys, J O Roberts a Bedwyr Rees yn cymryd rhan.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific