British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Hydref 2009, 14:35 GMT 15:35 UK
Poeni am unedau meithrin

Dosbarth meithrin
Addysg: Y cyngor yn 'pwyso a mesur opsiynau'

Mae rhai'n poeni y gallai hyd at 50 o gylchoedd meithrin gau os yw cyngor sir yn bwrw mlaen â chynllun i arbed arian.

Yr ofn yw y gallai Cyngor Gwynedd ddarparu gwasanaeth meithrin i blant tair oed yn eu ysgolion cynradd, darpariaeth sydd ar hyn o bryd yn nwylo Mudiad Ysgolion Meithrin.

Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn "pwyso a mesur opsiynau".

Ond un sy'n poeni yw trysorydd Cylch Meithrin Nefyn, Joan Williams, sy wedi cychwyn deiseb.

Mae rhai yn y mudiad wedi dweud eu bod yn poeni am golli hyd at 85 o swyddi rhan amser.

Yn y cyfamser, mae'r cyngor yn ceisio arbed £16 miliwn yn ystod y tair blynedd nesa.

Yn wyneb hyn mae pob adran wedi cael cais i "ganolbwyntio ar doriadau sydd ... yn cyfateb i ddwbl yr arbedion sydd eu hangen."

£2.5m

Dywedodd pennaeth addysg y cyngor, Dewi Jones, fod gweithgor yn ystyried gwahanol opsiynau, gan gynnwys £2.5m o arbedion mewn cyllideb addysg o £17m.

"Dylid pwysleisio mai pwyso a mesur opsiynau posib y mae'r cyngor ar hyn o bryd ac nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud.

"Rhaid cofio fod y £2.5m sydd wedi ei nodi yn cyfateb i ddwbl yr arbedion sydd angen eu gwireddu yn y gyllideb hon - os yw'r arbedion fydd yn cael eu derbyn yn gyson ar draws holl wasanaethau'r cyngor."

Mae debyg y bydd argymhellion ar gyfer toriadau gerbron y cyngor llawn yn mis Rhagfyr.

Yn yr adran addysg mae opsiwn sy'n cyfeirio at arbedion yn y gyllideb addysg ar gyfer plant tair oed.



HEFYD
Cynghorau: Codiad o hyd at 3%
13 Hyd 09 |  Newyddion
'Her aruthrol': Arbed £16 miliwn arall
11 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific