British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Hydref 2009, 06:22 GMT 07:22 UK
Cynllun adfywio trefi yng Nghymru

Arwydd yng Ngorsaf Reilffordd Blaenau Ffestiniog
Bydd arian ar gael i wella'r ardal o gwmpas yr orsaf drenau

Mae cynllun adfywio £4.5 miliwn ar gyfer Blaenau Ffestiniog wedi cael ei gyhoeddi.

Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, gyhoeddodd hyn ddydd Iau.

Bydd y cyllid yn hwb i'r dref a hynny mewn partneriaeth â'r mudiad Blaenau Ymlaen, Cyngor Sir Gwynedd a Llywodraeth y Cynulliad.

Fe fydd Stryd yr Eglwys a'r Stryd Fawr yn cael eu gweddnewid a chelf gyhoeddus yn cael ei harddangos ar y strydoedd.

Bydd Sgwâr Diffwys yn newid, yr ardal o gwmpas yr orsaf drenau ac fe fydd golau gwell ar gyfer chwarel lechi'r Gloddfa Ganol.

'Ymfalchïo'

Dywedodd Mr Jones: "Bydd y cynllun yn datblygu'r dre fel y bydd busnesau am fuddsoddi ynddi, a thwristiaid am fynd iddi.

"Y nod yw y bydd y gymuned leol yn ymfalchïo ynddi o'r newydd."

Fe fydd Y Trallwng, Y Drenewydd a Llanidloes ar eu hennill wrth i £7.5m gael eu gwario ar drefi Dyffryn Hafren.

Yn ogystal bydd £2 filiwn ar gael ar gyfer Tŷ Llanelli, £1 miliwn ar gyfer Bae Colwyn - ac Aberystwyth yn troi'n Ardal Adfywio Strategol.



HEFYD
Cyhoeddi cyllid cyfalaf £120m
20 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific