Bydd canolfan siopa newydd sy'n gorchuddio traean o ganol y brifddinas yn agor ddydd Iau.
Mae dros 100 o siopau newydd yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant 2, datblygiad gwerth £675 miliwn, sy'n uno gyda'r ganolfan siopau presennol.
Amcangyfrifir y bydd tua 27 miliwn o siopwyr yn pasio trwy'r ganolfan newydd dros y 12 mis nesaf, gan ddenu mwy na £250 miliwn o wariant blynyddol newydd i ganol y ddinas Caerdydd bob blwyddyn.
Bu 1,000 o swyddi yno yn ystod y gwaith adeiladu ac amcangyfrifir y bydd tua 4,500 o swyddi parhaol ar ôl cwblhau'r prosiect.
'Hwb economaidd enfawr'
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Rodney Berman: "Fel pawb arall rwyf wedi gwylio Dewi Sant yn dod at ei gilydd dros y tair blynedd diwethaf.
"Nawr ein bod wedi cyrraedd y diwrnod agoriadol rwy'n teimlo ymdeimlad o falchder anhygoel bod Cyngor Caerdydd a Phartneriaeth Dewi Sant wedi darparu datblygiad mor arbennig ar gyfer pobl y ddinas a'r rheiny sy'n dymuno ymweld â hi.
"O ran beth fydd y datblygiad hwn yn ei roi i Gaerdydd, mae'r £250miliwn o wariant blynyddol newydd yn dweud cyfrolau.
"Does dim amheuaeth bod Dewi Sant yn mynd i roi hwb economaidd enfawr i'r ddinas."
Ers bron i dair blynedd mae'r gwaith o ehangu'r ddarpariaeth siopau yn y ddinas wedi bod ar y gweill.
Y gobaith yw y bydd Caerdydd yn cael ei thrawsnewid i fod yn atyniad siopau rhyngwladol ac yn un o'r pum prif ganolfan siopau ym Mhrydain.
Ymhlith siopau sy'n agor yn y ganolfan y mae Hugo Boss, Kurt Geiger, Radley, Reiss, Ghost, All Saints a Crabtree & Evelyn.
Mae'r ganolfan yn cynnwys 9 o siopau mawr , 93 o siopau llai, 25 o fariau, bwytai a chaffis a 300 o fflatiau.
Mae siop adrannol fwyaf Cymru, John Lewis, a agorodd ym mis Medi, yn ganolbwynt.
Gwyliwch fisoedd o waith adeiladu Canolfan Siopau Dewi Sant 2 mewn tri munud.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.