British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Hydref 2009, 06:08 GMT 07:08 UK
Estyn: Angen gwell hyfforddiant

Dosbarth o blant
Mae tua 2,500 o blant gweithwyr tramor yn cael eu haddysg yng Nghymru

Dywed arolygwyr fod angen gwell hyfforddiant ar athrawon er mwyn ymdopi â'r cynnydd yn niferoedd plant gweithwyr mudol yn ysgolion Cymru.

Mae tua 2,500 o blant gweithwyr tramor yn cael eu dysgu yn ysgolion Cymru.

Dyma'r nifer uchaf erioed.

Dywed adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth fod ysgolion yn gweithio'n galed i integreiddio'r plant - nifer o wledydd dwyrain Ewrop gan gynnwys gwlad Pwyl, Hwngari, Latfia a Lithuania.

Yn ôl adroddiad Estyn mae yna ddiffyg hyfforddiant o safon uchel ar gyfer staff sy'n gweithio gyda'r plant.

Mae rhai ysgolion Pabyddol hefyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda'r niferoedd uchel.

Dywed yr adroddiad fod cymaint o blant gweithwyr tramor wedi cyrraedd ar yr un adeg fel bod ysgolion yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

'Trefniadaeth dda'

Yn ôl Estyn fe ddylai Llywodraeth y Cynulliad a'r awdurdodau lleol gydweithio a rhannu gwybodaeth ynglŷn â lle mae disgwyl i weithwyr mudol ymgartrefu.

"Roedd gan bron pob un o'r ysgolion drefniadaeth dda i gwrdd â gofynion addysgiadol y plant yma," meddai Dr Bill Maxwell, Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

"Ond yn gyffredinol does yna ddim digon o hyfforddiant arbenigol ar gael ar gyfer athrawon a chynorthwywyr dosbarth er mwyn dysgu Saesneg fel ail iaith."

Dywed yr adroddiad fod yna record dda ymhlith y plant o fynychu ysgolion ac o fod ar amser.

Daw'r gwaith ymchwil o adroddiadau a wnaed ar ysgolion rhwng 2007-2008.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific