British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2009, 10:07 GMT 11:07 UK
Plant cefn gwlad: 'Ar eu colled'

Cefn gwlad
Adroddiad: Diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem

Mae plant teuluoedd tlotaf cefn gwlad Cymru yn ei chael hi'n anodd i gael yr un gwasanaethau â'r rhai ar gael i blant ardaloedd trefol, yn ôl gwaith ymchwil.

Dywedodd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru nad oedd gweithgareddau fel clybiau ar ôl ysgol a rhai gwasanaethau iechyd ar gael i rai pobl ifanc mewn ardaloedd cefn gwlad.

Mae adroddiad Plant yng Nghymru wedi dweud bod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn gwaethygu'r broblem a bod plant yn gorfod dibynnu ar eu rheini cyn teithio.

Yn ôl llefarydd Llywodraeth y Cynulliad mae'r ymgyrch i leihau tlodi plant yn mynd yn ei blaen.

Mae'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi.

'Dim hawliau'

Dywedodd Anita Myfanwy o'r rhwydwaith: "Oherwydd bod tlodi ddim yn amlwg mewn ardaloedd gwledig mae'r bobl sy'n llunio polisïau yn aml yn ei anwybyddu.

"Mae teuluoedd rhai o'r plant a'r bobol ifanc wedi byw yn y gymuned am genedlaethau - ond eto does ganddyn nhw ddim rhai o'r hawliau sylfaenol ...

"Dyw rhai ddim yn gallu elwa ar gynlluniau nofio rhad ac am ddim a chlybiau ar ôl ysgol - oherwydd lle maen nhw'n byw ac amgylchiadau teuluol.

"Mae plant a phobl ifanc mewn sefyllfa fregus os ydyn nhw o deuluoedd incwm isel yng nghefn gwlad Cymru."

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod tlodi plant wedi gostwng o 35% yn 1999-2000 i 32% yn 2007-08.

"Dros y 10 mlynedd diwetha mae canran y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi gostwng yn fwy na'r cyfartaledd ar gyfer y pedair gwlad.

"Ond rydym yn cydnabod fod 32% o blant yn parhau mewn tlodi ac mae delio â hyn yn un o flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific