British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Hydref 2009, 07:11 GMT 08:11 UK
Cynnal gemau'r gymanwlad 2022?

Cynhaliwyd Gemau'r Ymerodraeth yng Nghaerdydd yn 1958
Cynhaliwyd Gemau'r Ymerodraeth yng Nghaerdydd yn 1958

Mae BBC Cymru wedi darganfod fod trafodaethau wedi dechrau o fewn Cyngor Dinas Caerdydd i geisio denu gemau'r Gymanwlad yn 2022.

Y brifddinas fyddai canolbwynt y gemau ond byddai cyfleusterau yn Abertawe a Chasnewydd yn cael eu defnyddio hefyd.

Byddai cais ffurfiol yn cael ei wneud i Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi'r cais.

Petai'r cynllun yn llwyddo, dyma fyddai'r gystadleuaeth chwaraeon mwyaf erioed i gael ei chynnal yng Nghymru.

Byddai 72 o dimau yn teithio yma o bedwar ban y byd i gystadlu a byddai 5,000 o athletwyr yn cystadlu.

'Digwyddiadau chwaraeon mawr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Rydym wedi ymrwymo i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru ac mae gan Gymru hanes arbennig yn denu rhai o'r prif ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mwyaf, fel Cwpan Rygbi'r Byd, Prawf y Lludw a'r Cwpan Ryder.

"Byddai'n rhaid ystyried ymarferoldeb cefnogi cais gan ddinas yng Nghymru i gynnal Gemau'r Gymanwlad ond yn y pen draw, mae'r penderfyniad i wneud cais yn benderfyniad i'w gwneud gan y ddinas sydd am wneud cais gyda Chyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru.

"Oherwydd y cyfnod o 12 mlynedd a fydd wedi pasio rhwng Manceinion 2002 a Gemau Glasgow yn 2014, bydd hi hefyd yn bwysig ystyried ar ba bwynt ar ôl 2014 y bydd gobaith realistig o ddenu'r gemau nôl i'r Deyrnas Unedig."



HEFYD
'Gwneud mwy' i ddenu digwyddiadau
11 Rhag 08 |  Newyddion
Gemau'r Gymanwlad
Gemau gorau Cymru

04 Awst 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific