British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Hydref 2009, 05:51 GMT 06:51 UK
Llywodraeth: Agor swyddfa newydd

Adeilad Llywodraeth y Cynulliad yn Aberystwyth
Swyddfeydd newydd: Lle i hyd at 535 o staff

Mae swyddfa newydd Llywodraeth y Cynulliad yn Aberystwyth yn cael ei hagor yn swyddogol ar gost o £20 miliwn.

Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, sy'n agor yr adeilad ddydd Iau.

Mae disgwyl y bydd hyd at 200 o staff yn ad-leoli o Gaerdydd i'r canolbarth.

Yn y swyddfeydd ym Mharc y Llyn mae sawl adran, gan gynnwys yr Adran Materion Gwledig a Threftadaeth, Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy.

Mae datblygiad tebyg ar waith yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer gwasanaethu trigolion gogledd Cymru.

Fe fydd yr adeilad yn agor yn 2010.

Ardal wledig

"Mae agor y swyddfa newydd hon yn Aberystwyth yn cynrychioli'r cam diweddaraf yn ein hymrwymiad i ddod â gwasanaethau hyd yn oed yn nes at bobl Cymru," meddai Mr Morgan.

"Rydym eisoes wedi sefydlu canolfan bwysig yng nghanol y Cymoedd ym Merthyr Tudful.

"Rydym yn anfon neges glir ein bod yn dymuno cyfathrebu'n well gyda'n pobl ar lefel leol gan sicrhau eu bod yn cael gwybod mwy am ein gwaith".

Yn ogystal â darparu gweithle i staff y Llywodraeth, bydd y swyddfa newydd yn cynnwys man ar gyfer y cyhoedd o'r enw Y Bont.

Bydd unrhyw un yn gallu mynd i mewn ac ymweld â'r swyddfa, cael mwy o wybodaeth am Lywodraeth Cynulliad Cymru, syrffio'r we a mwynhau paned.

"Mae Y Bont yn lle arloesol i'r cyhoedd, y cyntaf o'i fath yn un o swyddfeydd y llywodraeth," meddai Mr Morgan.

Fe agorodd Cyngor Ceredigion swyddfeydd newydd y drws nesa i'r adeilad ym mis Medi.

Bydd diwrnod agored i'r cyhoedd ddydd Sadwrn, Hydref 17, rhwng 10am a 4pm.



HEFYD
Ymateb da i swyddi Llywodraeth
30 Awst 08 |  Newyddion
Swyddfeydd cynulliad i Aberystwyth
17 Awst 05 |  Newyddion
Agor canolfan cyngor 15m
10 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific