Roedd Nerys Price yn disgwyl babi Simon Morris pan ymosodwyd arni
|
Cafwyd Simon Morris yn euog o geisio llofruddio ei gariad beichiog ac o geisio difa plentyn heb ei eni. Yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug penderfynodd rheithgor o wyth dyn a phedair dynes fod Morris, 37 oed o Brestatyn, yn euog mewn achos oedd wedi para am dair wythnos. Roedd wedi ceisio llofruddio Nerys Price, 37 oed, wrth iddi gysgu yn eu cartref ym mis Awst 2008. Fe wnaeth y Barnwr Merfyn Hughes ddedfrydu Morris i garchar am 25 mlynedd am geisio llofruddio Ms Price ac am 25 mlynedd arall am geisio difa plentyn heb ei eni. Fe fydd y ddwy ddedfryd yn cydredeg. Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr bod y rheithgor wedi ei gael yn euog ar sail tystiolaeth gref. "Fe wnaethoch chi geisio lladd eich partner o fewn wythnosau yn unig iddi roi genedigaeth..... "Roedd yn ymgais ffiaidd, dideimlad i gael gwared ar bartner a oedd yn barod i roi genedigaeth i'ch plentyn a doedd hi ddim wedi gwneud dim ond eich caru." Wrth gael ei anfon i'r carchar roedd Morris yn edrych tua'r llawr yn ysgwyd ei ben. Dywedodd yr erlyniad y byddai Morris yn elwa ar ewyllys Ms Price ac y byddai'n gallu dechrau bywyd newydd â'i gariad. Roedd Morris wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio difa plentyn heb ei eni, o guro ei bartner â morthwyl ac o ddweud wrth yr heddlu bod rhywrai wedi ceisio torri i mewn i'w cartref. Yn yr wythnosau cyn yr ymosodiad roedd Morris, swyddog priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych, wedi dweud bod angen i'r ddau newid ewyllys. Chwe awr Ym mis Mai ni lwyddodd y rheithgor i ddyfarnu. Wrth i'r rheithgor gyhoeddi'r dyfarniad ddydd Mercher fe wyrodd y cynfownser clwb nos chwe throedfedd a chwe modfedd o daldra ei ben. Roedd y rheithgor yn unfrydol ar ôl chwe awr o drafodaeth. Roedd teulu Morris a Ms Price yn yr oriel gyhoeddus.
Simon Morris fyddai wedi elwa yn llwyr o ewyllys newydd Nerys Price
|
Clywodd y llys fod Morris wedi taro Ms Price ddwywaith yn ei phen ar ôl iddi fod yn feichiog am 38 wythnos. Roedd Ms Price wedi dweud wrth y rheithgor ei bod hi wedi deffro a gofyn i Morris ffonio'r heddlu. "Roedd yn ymddangos fel petai'n ceisio ffonio'r heddlu ond, yn amlwg, roedd yn methu'r rhifau," meddai. Ar ôl iddi hi gysylltu â'r gwasanaethau brys cafodd ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Cafodd lawdriniaeth Gesaraidd yno i eni ei merch Freya. Wedyn cafodd ei symud i Ysbyty Walton yn Lerpwl ar gyfer llawdriniaeth ar ei phenglog. Bywyd newydd Ar ôl cael ei rhyddhau o'r ysbyty bu Ms Price, sydd bellach yn byw yn Rhuthun, yn aros gyda'i thad. Tra oedd hi yno, meddai, fe gafodd amheuon am "ymddygiad rhyfedd" Morris. Ers yr ymosodiad mae Ms Price, rheolwr adnoddau dynol cwmni adeiladu lleol, a Freya wedi gwella'n llwyr. Dywedodd Patrick Harrington QC ar ran yr erlyniad bod Morris wedi cyfarfod Kate Christian mewn tafarn yn Llanelwy fisoedd cyn yr ymosodiad ar Ms Price. "Roedd wedi trefnu'r ymosodiad er mwyn cychwyn bywyd newydd," meddai. "Fe fyddai wedi derbyn £145,000 ar y cychwyn o bensiwn Ms Price cyn derbyn miloedd mwy." Perthynas Clywodd y llys fod Morris yn cael perthynas ar yr un pryd â dynes na chafodd ei henwi drwy wefan Facebook. Roedd wedi e-bostio llun ohono yn gwisgo dim ond tywel. Fe wnaeth Morris gyfadde bradychu Ms Price ond doedd hyn, meddai, ddim yn golygu fod ganddo'r gallu i'w lladd ac o ladd eu plentyn oedd heb ei eni. Dywedodd ei fargyfreithiwr, Nick Johnson QC, wrth y llys mai "pechod mwya" Morris oedd ei fod wedi twyllo Ms Price ac felly ei fod yn "darged hawdd" i'r heddlu. Roedd yr amddiffyn wedi honni bod lladron efallai'n ceisio dwyn goriadau car American Chevrolet Corvette Morris oedd yn werth £16,000.
|