British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Hydref 2009, 07:37 GMT 08:37 UK
Cofio Trychineb Senghennydd

Lluniau o drychineb Senghenydd 1913
Y drychineb yn 1913 oedd y gwaetha yn hanes 20fed y DU

Toc wedi 8am ar Hydref 14 1913 bu ffrwydriad mewn pwll glo wnaeth ladd 439 o lowyr.

Roedd y ffrwydrad ym mhwll glo Universal yn Senghennydd y trychineb glofaol gwaetha yn y DU yn yr 20fed Ganrif wrth i'r gweithwyr gael eu caethiwo o dan ddaear.

Dyma'r ail drychineb yn y pwll ar ôl i 81 o ddynion gael eu lladd yno yn 1901.

Dydd Mercher fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal i gofio'r ddau ddigwyddiad ar y safle coffa yn Senghennydd.

Roedd yr hyn wnaeth ddigwydd yno yn 1901 ac yn 1913 gyrraedd y newyddion yn rhyngwladol.

Wythnosau o angladdau

Yn ôl adroddiadau roedd modd clywed s?n ffrwydrad 1913 11 milltir i ffwrdd yng Nghaerdydd wrth iddo rwygo drwy'r twneli tanddaearol ddwy awr ar ôl i'r shifft gynnar gychwyn.

Cafodd angladdau'r gweithwyr eu cynnal hyd nes canol mis Tachwedd y flwyddyn honno.

Mae adroddiad newyddion o'r trychineb, gafodd ei rhoi i Archif Sain a Sgrin Cymru yn Aberystwyth yn 2006, yn cynnwys lluniau o bobl yn ymgasglu ger y gwaith wedi'r trychineb.

Fe fydd lluniau archif prin o'r trychineb yn cael eu dangos yng nghanolfan gymunedol newydd Senghennydd.

Ar ôl gwasanaeth bydd llyfr yn cael ei ail-gyhoeddi, Valley of the Shadow gan John H Brown.

Mae'r llyfr yn dweud hanes Senghennydd o ddyddiau cynnar canfod glo i hanes y ddau drychineb a'r modd wnaeth y cwm ddygymod a'r hyn oedd wedi digwydd.



HEFYD
Hen ffilm yn cofnodi trychineb lofaol
15 Maw 06 |  Newyddion
Cofio glowyr Senghennydd
24 Mai 01 |  Newyddion
Cofio 150 o lowyr a laddwyd
20 Medi 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific