British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Hydref 2009, 11:54 GMT 12:54 UK
Cynghorau: Codiad o hyd at 3%

Gweithwyr cyngor
Bydd gwasanaethau 'yn wynebu toriadau'

Mae awdurdodau lleol Cymru wedi cael cynnydd o hyd at 3% yn eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Tra bod y cynnydd mwyaf yng nghynghorau Wrecsam a Chasnewydd, mae'r un lleiaf yng nghynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Phowys.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Dr Brian Gibbons, ei fod yn cydnabod bod 'na "bwysau sylweddol ar gyllidebau".

Ond mae'n dadlau fod modd arbed arian drwy leihau biwrocratiaeth.

Dydd Mawrth cyhoeddodd y byddai mwy na £4 biliwn ar gael ar gyfer gwasanaethau llinell flaen yn ystod 2010-11.

SETLIAD 2010-11
Abertawe 1.9%
Blaenau Gwent 1.6%
Bro Morgannwg 2.4%
Caerdydd 3%
Caerffili 2.3%
Caerfyrddin 1.8%
Casnewydd 3.1%
Castell-nedd Port Talbot 1.8%
Ceredigion 2.1%
Conwy 1.1%
Dinbych 2.4%
Fflint 1.9%
Gwynedd 1.1%
Merthyr Tudful 2%
Mynwy 1.1%
Penfro 1.4%
Pen-y-bont ar Ogwr 2.7%
Powys 1%
Rhondda Cynon Taf 2.5%
Torfaen 1.6%
Wrecsam 3.1%
Ynys Môn 1%

Dywedodd Dr Gibbons ei fod wedi cyflwyno isafswm o 1% o gynnydd ar yr amod y byddai'n cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau yn lle sybsideiddio penderfyniadau treth y cyngor.

Mae llefarydd Ceidwadwyr y cynulliad ar lywodraeth leol, Darren Millar, wedi dweud nad oedd neb eisiau i'r prif wasanaethau ddiodde o ganlyniad i'r setliad.

"Ond mae'n anodd iawn dychmygu sut y mae modd cynnal y gwasanaethau yn sgîl y setliad hwn.

"Gan fod cynghorau ar draws Cymru yn wynebu cwtogi swyddi a gwasanaethau, unwaith eto yr awdurdodau lleol sy'n wynebu prif bwysau cyllideb Llywodraeth y Cynulliad."

Wedi iddo gyhoeddi'r arian ar gael i'r cynghorau, dywedodd Dr Gibbons: "Fe fyddaf yn edrych yn ffafriol ar gynigion i uno o fewn awdurdodau a gwell cyd-weithio."

Fe allai hyn ddigwydd dros gyfnod o amser, meddai, ond nid oedd yn awgrymu ad-drefnu llywodraeth leol.

Pum mlynedd

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai'r cynghorau yn wynebu "pwysau ariannol" am o leia bum mlynedd.

"Bydd cynghorau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd am dorri gwasanaethau a chwtogi swyddi," meddai John Davies, arweinydd y gymdeithas.

"Fe fyddwn ni'n dal i weithio'n agos â'r cynghorau a Llywodraeth y Cynulliad ...

"Ond ar yr un pryd rhaid i'r cynghorau weithio'n galed i ystyried pob opsiwn o ran gwella effeithlonrwydd."



HEFYD
Cyllideb ddrafft: Rhybudd
05 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific