British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Hydref 2009, 11:57 GMT 12:57 UK
Cronfa goffa i T Llew

T.Llew Jones
Bu farw T Llew Jones yn 93 oed

Dros y penwythnos cafodd Cronfa Goffa T Llew Jones ei lansio yn swyddogol.

Cafodd y gronfa ei lansio ym mro enedigol yr awdur ym Mhontgarreg ger Llangrannog.

Roedd y penwythnos yn benllanw wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu bywyd yr awdur a'r Prifardd fu farw'n 93 oedd ym mis Ionawr.

Fe fydd y gronfa yn hybu gwaith llenyddol ymhlith plant a phobl ifanc.

"Yr hyn sydd gennym ni mewn golwg ydi cronfa goffa fydd yn wir gadw syniadaeth ac etifeddiaeth T Llew yn fyw," meddai Owenna Davies o Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion.

"Rydyn ni eisiau cronfa fydd yn creu cyfleoedd, fydd heb enw nac oedran, ar gyfer pobol sydd eisiau datblygu'n greadigol yng Nghymru.

"Y mwya i gyd o arian fydd gennym ni, y mwya i gyd o gyfleoedd fydd 'na."

Miloedd

Yr wythnos ddiwetha roedd Cyngor Ceredigion yn cynnal gweithgareddau ym Mhentre Bach, Ceredigion - Cartref Sali Mali a'i ffrindiau.

Dydd Gwener roedd miloedd o blant ysgolion Cymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau.

Plant wedi gwisgo fel morladron yn gwrando ar un o straeon T Llew Jones
Plant wedi gwisgo fel morladron yn gwrando ar un o straeon T Llew Jones

"Bu'r gweithgareddau'n llwyddiannus ac un syniad ydi ein bod yn mynd i barhau gyda hynny ond mae popeth yn costio arian," meddai Mrs Davies.

"Mae angen cael tua £10,000 y flwyddyn at weithgareddau Cymru gyfan.

"Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn, Gwasg Gomer wedi rhoi swm sylweddol er mwyn sefydlu'r gronfa a dwi wedi cael sieciau o bob cyfeiriad, yn amrywio o £50 i £200 ...

"Ac rydyn ni wedi cael nifer o addewidion eraill."

Mae teulu'r diweddar T Llew Jones wedi canmol y gweithgareddau.

"Ry'n ni'n falch iawn o'r dathliadau sydd wedi bod," meddai un o'i feibion, Iolo Jones.

"Mae'n anrhydedd mawr i ni fel teulu gael y dathliadau ddeilliodd o syniadau plant ac athrawon Ysgol Chwilog.

"Mae'r peth wedi mynd yn belen eira ... fe fyddai T Llew wedi ymfalchïo yn y dathliadau.

"Dyna oedd ei fyd a gobeithio y bydd hyn yn digwydd bob blwyddyn."



HEFYD
13,000 ar ddiwrnod i'r brenin
09 Hyd 09 |  Newyddion
Angladd 'brenin lln plant'
16 Ion 09 |  Newyddion
Colli 'un o eiconau'r genedl'
16 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific