British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 11 Hydref 2009, 09:13 GMT 10:13 UK
Catrin yn cipio'r prif wobr

Catrin Angharad Roberts a Bryn Terfel
Mae'r ysgoloriaeth yn werth 4,000 ar gyfer hyfforddiant pellach

Catrin Angharad Roberts o Lanbedrgoch Ynys Môn yw enillydd cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2009.

Fe wnaeth hi sicrhau lle yn y rownd derfynol ar ôl ennill y gystadleuaeth alaw werin unigol yr Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae'r ysgoloriaeth yn werth £4,000 ar gyfer hyfforddiant pellach.

"Fedrai ddim diolch digon am y profiad dwi wedi ei gael wrth gystadlu," meddai Catrin sydd yn arweinydd a chyd sefydlydd côr meibion Ynys Môn.

"Dwi wedi mwynhau pob munud a does na ddim geiriau i ddisgrifio'r anrhydedd."

"Does dim dwywaith y bydd yr Ysgoloriaeth yn mynd a fi ymhellach ac os y cai hanner llwyddiant y mae Bryn Terfel wedi ei gael yna mi fyddai wrth fy modd."

Dosbarthiadau meistri

Roedd wyth yn cystadlu yn rownd derfynol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Caerdydd nos Sadwrn.

Roedd yr wyth, saith o ferched ac un llanc, wedi eu dewis ar ol iddynt ennill eu cystadlaethau unigol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mehefin.

Cyn y rownd derfynol cafodd yr wyth fynychu dosbarthiadau meistri.

Tiwtoriaid y dosbarthiadau meistri yng Nghaerdydd ym mis Medi oedd Mark Evans, Elin Manahan Thomas, Owain Siôn Williams, Lauren Phillips, Rhian Porter, Rona Jones a Beth Robert.

Hon yw degfed flwyddyn y gystadleuaeth sy'n meithrin a datblygu talent pobl ifanc dan 25 oed.

Yr wyth yn y rownd derfynol oedd:

Jocelyn Freeman o Dyddewi, Sir Benfro, (Enillydd yr Unawd Offerynnol 19-25oed)

Hanna Hopwood o Langynnwr, Caerfyrddin, (Enillydd y llefaru unigol 19-25 oed)

Elliw Mai o Riwlas, Bangor, (Enillydd yr Unawd Cerdd dant 19-25 oed)

Lisa Marged o Nant-y-caws, Caerfyrddin, (Enillydd y Cyflwyniad Theatrig Unigol 19-25 oed)

Anni Llŷn Parri o Sarn, Pwllheli, Gwynedd, (Enillydd yr Unawd 19-25 oed)

Cerian Mai Phillips o Fryn Iwan, Caerfyrddin, (Enillydd y Ddawns Werin Unigol 15-25 oed)

Gwydion Rhys o Glunderwen, Sir Benfro, (Enillydd yr Unawd Allan o Sioe Gerdd 19-25 oed)

Catrin Angharad Roberts o Lanbedrgoch, Ynys Môn, (Enillydd yr Alaw Werin 19-25 oed)

Bydd Cyngerdd yr Ysgoloriaeth ar S4C, nos Sul, 9pm.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific