British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Hydref 2009, 12:17 GMT 13:17 UK
Pentre 'dan gwmwl o lwch'

Cwmni Hanson Cement
Mae'r asiantaeth yn ymchwilio

Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio ar ôl i gwmwl o lwch orchuddio tai a cheir mewn pentre yn Sir y Fflint.

Daeth y llwch o safle Hanson Cement yn Padeswood ger Bwcle nos Iau.

Dywedodd yr asiantaeth fod y cwmni, Castle Cement gynt, yn cynorthwyo'r ymchwiliad.

Mae'r cwmni wedi trefnu bod ceir pobl y pentre yn cael eu glanhau oherwydd effeithiau'r llwch.

Yn 2007 fe dalodd cwmni Castle Cement bobl broffesiynol i lanhau ceir ar ôl dau ddigwyddiad tebyg.

Mae'r cynghorydd cymuned Colin Bithell wedi dweud bod yr hyn ddigwyddodd nos Iau yn "ddifrifol iawn".

Ychwanegodd ei fod yn poeni am effaith diswyddiadau diweddar.

"Mae nifer y gweithwyr wedi gostwng i 50, yr isafswm.

"Pan wnes i godi'r mater â'r rheolwr wythnosau'n ôl fe gefais i sicrwydd fod popeth yn iawn.

'Pryder'

"Mae hyn wedi digwydd o'r blaen a dwi isio gwybod be maen nhw am wneud i sicrhau nad ydio'n digwydd eto.

"Mae yna bryder am yr effaith ar iechyd ... mae'n bosib fod pobl yn anadlu'r stwff yma."

Dywedodd y cwmni eu bod wedi derbyn tua dwsin o gwynion gan bentrefwyr.

Roedd problem yn y felin brosesu ddydd Mercher, meddai, oedd wedi golygu bod llwch wedi ei ollwng o un o'r storfeydd.

'Sicrwydd'

Dywedodd fod y broses wedi dod i ben ar unwaith a bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal.

"Rydym wedi cael sicrwydd nad oes yna unrhyw fygythiad i iechyd pobl."

Pan ofynnwyd a oedd nifer y staff yn ffactor yr ateb oedd: "Rhaid aros am ganlyniadau'r ymchwiliad.

"Os oedd yn broblem fecanyddol, mi allai fod wedi digwydd gyda 300 yn gweithio ar y safle."



HEFYD
Bygythiad i hyd at 93 o swyddi
07 Gorff 09 |  Newyddion
Sment: Ymchwiliad cyhoeddus
30 Awst 06 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific