British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Hydref 2009, 07:24 GMT 08:24 UK
13,000 ar ddiwrnod i'r brenin

Bydd miloedd o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gofio'r awdur T Llew Jones

Mae o leia 13,000 o blant ysgolion cynradd Cymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ddydd Gwener i gofio'r awdur T Llew Jones.

Bu farw'r awdur a'r Prifardd ym mis Ionawr yn 93 oed a fe oedd "brenin llenyddiaeth plant yng Nghymru".

Oherwydd ymgyrch Ysgol Gynradd Chwilog yng Ngwynedd penderfynwyd y dylid cynnal diwrnod cenedlaethol.

Mae'r Cyngor Llyfrau, sy'n trefnu'r diwrnod, wedi dweud bod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel".

T Llew Jones
Mae gwaith T Llew yn parhau i wefreiddio plant

Dywedodd Menna Lloyd Williams, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant, fod y gweithgareddau'n dangos yr awydd i "goffáu un o fawrion llenyddiaeth plant."

"Byddai T Llew wrth ei fodd o wybod y bydd plant o bob rhan o Gymru yn dathlu ei gyfraniad mawr i faes llyfrau plant."

Yn ogystal â gweithgareddau mewn ysgolion bydd nifer o weithgareddau mewn llyfrgelloedd a siopau.

Fe gafodd ei eni ym Mhontgarreg ger Llangrannog.

Eisoes bu nifer o weithgareddau yng Ngheredigion, gan gynnwys gweithdy yng nghwmni rhai o awduron Cymru.

Nos Wener Jon Meirion Jones, awdur a chyn brif athro ysgol gynradd, fydd yn traethu Darlith T Llew Jones yn Llyfrgell Aberteifi.

Penllanw gweithgareddau dydd Sadwrn fydd lansio Cronfa Goffa T Llew Jones ym Mhontgarreg.

Plant Ysgol Chwilog
Plant Ysgol Chwilog yn gwrando ar straeon T Llew Jones

Un awgrym yw y gallai'r gronfa hybu plant a phobl ifanc i ysgrifennu.

Dydd Sul bydd plant yr ysgol gynradd mewn gwasanaeth coffa yn Chwilog.

Wrth gyfeirio at y diwrnod cenedlaethol, dywedodd Pennaeth Ysgol Chwilog, Edward Elias, fod y syniad yn wych.

"Os oes unrhyw un yn haeddu diwrnod fel hyn, T Llew Jones yw hwnnw," meddai.

"Roedd ganddo ddawn arbennig i wefreiddio plant."



HEFYD
Angladd 'brenin lln plant'
16 Ion 09 |  Newyddion
Colli 'un o eiconau'r genedl'
16 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific