British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Hydref 2009, 07:22 GMT 08:22 UK
Carwyn Jones yn y ras

Carwyn Jones
Carwyn Jones ydi'r trydydd i gyhoeddi ei fwriad i sefyll

Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru Carwyn Jones wedi cyhoeddi ei fwriad i olynu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru.

Dydd Llun fe lansiodd AC Pen-y-bont ar Ogwr ei ymgyrch wrth gyfarfod ag aelodau'r blaid yn ei etholaeth am 5.45pm.

Mr Jones yw'r trydydd person i gyhoeddi ei fwriad i olynu Mr Morgan gyhoeddodd y byddai'n gadael ei swydd ym mis Rhagfyr.

Eisoes mae Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, ac Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, Huw Lewis, wedi cyhoeddi eu hymgyrchoedd.

Fe wnaeth Leighton Andrews, Aelod Cynulliad Y Rhondda, gadarnhau mai fe fyddai'n rheoli ymgyrch Mr Jones.

Ar ddwy wefan newydd, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg, fe gafodd manylion ymgyrch Mr Jones eu datgelu ddydd Llun ar ffurf neges fideo.

Ymosodiad

Dywedodd wrth gefnogwyr ei fod am helpu "gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru" drwy adeiladu ar lwyddiannau llywodraeth Mr Morgan dros y naw mlynedd diwethaf.

Talodd deyrnged i'r gwaith o gryfhau'r system addysg a'r gwasanaeth iechyd a chyflwyno polisïau fel gwasanaeth bws am ddim i bobl hŷn a phresgripsiwn am ddim.

AMSERLEN ETHOL OLYNYDD I RHODRI MORGAN
Hydref 2: Rhoi rhybudd etholiad i'r canghennau lleol, mudiadau sy'n gysylltiedig â'r blaid, ACau, ASau Llafur Cymru a'r ASE
Hydref 12: Diwrnod olaf enwebiadau
Tachwedd 2: Cyhoeddi'r papur pleidleisio
5pm, Tachwedd 26: Y bleidlais yn dod i ben
Rhagfyr 1: Cyhoeddi enw'r enillydd
Rhagfyr 8: Cadarnhau'r enillydd yn brif weinidog newydd

Yn ei ymgyrch mae'n ymosod ar bolisi Plaid Cymru o annibyniaeth, polisi "allai rwygo ffrindiau a theuluoedd a pholisi fydd yn anfforddiadwy.

"Fel aelodau eraill o Lafur Cymru, dwi'n falch i fod yn Gymro ond yn falch hefyd i fod yn Brydeiniwr," meddai yn y fideo.

Ei nod, meddai, yw ymgyrchu ar gyfer mwyafrif i'r Blaid Lafur yn etholiadau'r cynulliad yn 2011.

Dywedodd mai ei gyfnod anodda mewn gwleidyddiaeth oedd yn ystod argyfwng clwy'r traed a genau yn 2001 pan oedd yn Weinidog Amaeth.

Ond, meddai, roedd y profiad o fudd iddo yn ei waith a'i swyddi yn y llywodraeth.

Mae nifer o wleidyddion Llafur wedi dweud eu bod yn cefnogi ymgyrch Mr Jones, gan gynnwys Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson.

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, ac AC De Caerdydd a Phenarth, Lorraine Barrett, ac AC Wrecsam, Lesley Griffiths, wedi dweud eu bod yn cefnogi gweinidog "dibynadwy" sydd wedi profi gwir sgiliau arweinyddol - ac yn gallu bod yn aelod o dîm.

"Carwyn fydd y person cywir i hybu ac ail-fywiogi holl rannau'r blaid," meddai Mrs Griffiths.



HEFYD
Olynydd Morgan: Ras yn dechrau
05 Hyd 09 |  Newyddion
Pwy fydd yn olynu Morgan?
02 Hyd 09 |  Newyddion
Rhodri'n rhoi'r gorau i'w swydd
01 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific