British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Hydref 2009, 13:34 GMT 14:34 UK
Cyllideb ddrafft: Rhybudd

Andrew Davies
Andrew Davies: Rhybudd i wasanaethau cyhoeddus

Wrth i Gyllideb Ddrafft Cymru gael ei chyhoeddi mae'r Gweinidog Cyllid, Andrew Davies, wedi rhybuddio bod y "blynyddoedd o ddigonedd" ar ben.

Er y bydd gan Lywodraeth y Cynulliad bron £16bn i'w wario y flwyddyn nesaf, mae'r cynnydd at ei gilydd yn llai na £300m.

Mae nifer o adrannau yn wynebu toriadau ariannol go iawn yn sgîl cyhoeddi'r gyllideb ddraft ar gyfer 2010-11.

Roedd cyfyngiadau ariannol yn golygu penderfyniadau anodd ac fe fydd rhaid i bob adran y llywodraeth arbed 1.6% ar eu gwariant.

Ar sail chwyddiant o 1.5% fe fydd gwario o ddydd i ddydd yn adrannau addysg ac economi yn gostwng o 0.6% yn 2010-11.

Ond fe fydd y gwario yn adran amgylchfyd, cynaliadwyedd a thai yn codi o 3.9%.

'Cyflym'

Ac fe fydd gwario yn adrannnau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn codi o 1.1% mewn termau real.

Er bod Mr Davies yn pwysleisio bod yr arian sy'n dod i Gymru yn cynyddu, mae wedi rhybuddio gwasanaethau cyhoeddus fod angen "newidiadau cyflym" am fod y rhagolygon yn y blynyddoedd nesa'n "llwm".

Dywedodd y llywodraeth y byddai'r cynnydd ar gael i adrannau wario ar wasanaethau cyhoeddus tua 2.1%.

Ond mae'r ffigwr yn lleihau i tua 0.6% oherwydd effaith chwyddiant.

Fe fydd lleihad o 0.6% ar gyfer addysg a datblygu economaidd.

Dywedodd Mr Davies fod y gyllideb yn golygu y dylai'r sector cyhoeddus wneud llawer gwell ddefnydd o arian cyhoeddus.

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, fod y gyllideb yn "wael" a bod diffyg gallu llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan i reoli gwariant gyhoeddus yn ffactor.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific