British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 4 Hydref 2009, 09:32 GMT 10:32 UK
Rhybudd: 'Argyfwng' papurau newydd

Papurau newydd
Mae cyflwr y wasg yng Nghymru o dan adolygiad

Dydi hi ddim wedi bod yn wythnos dda i'r diwydiant papurau newydd yng Nghymru wrth i ddau bapur newydd gau a 16 yn colli ei gwaith.

Mae cyn-olygydd yr Independent, Ian Hargreaves, wedi dweud y gallai pethau waethygu.

Mae Mr Hargreaves yn cynnal ymchwiliad ar ran Llywodraeth y Cynulliad i sefyllfa papurau newydd yng Nghymru.

Dywed bod arian hysbysebu yn lleihau ac nad ydi'r symud tuag at y we wedi arwain at yr arian yr oedd papurau yn arfer ei dderbyn.

Mae nifer o olygyddion papurau yng Nghymru wedi mynegi pryderon hefyd ond mae nifer wedi gwrthod galwadau y dylai Llywodraeth y Cynulliad ymyrryd a chynnig arian ychwanegol.

'Niwed'

Fe wnaeth cwmni Media Wales ddod â phapurau newydd y Neath and Port Talbot Guardian i ben ac ad-drefnu staff cynhyrchu yn eu pencadlys yng Nghaerdydd.

Dywedodd Spencer Feeney, golygydd The South Wales Evening Post, bod y diwydiant wedi cael eu "niweidio".

Ond dywed Mr Hargreaves bod papurau llai yn "fwy bregus" gan fod arian hysbysebu yn symud o'r cyhoeddiadau i'r we.

FFIGYRRAU CYLCHREDIAD
South Wales Evening Post: 46,069
South Wales Echo: 36,361
Daily Post: 33,938
Western Mail: 32,926
South Wales Argus: 26,667
Wrexham Evening Leader: 19,437

Mae'r ffigyrau cylchrediad diweddara yn dangos bod pob un o bapurau newydd rhanbarthol Cymru i lawr rhwng 6% a 12%.

Mae Mr Feeney yn dweud mai effaith y dirwasgiad ydi hyn.

"Mewn cyfnod pan mae pobl yn poeni am arian, maen nhw'n torri yn ôl ar bethau fel papur newydd."

Ond mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Leanne Wood yn galw ar y llywodraeth i ymyrryd.

"Dwi'n credu bod 'na ddadl am gefnogaeth gyhoeddus er mwyn bod papurau newydd bach yn gallu goroesi," meddai.

"Y pryder gwirioneddol ar hyn o bryd ydi papurau newydd bach cymunedol ond fyddwn i ddim yn ystyried rhywbeth tymor hir a chreu sylfaen iach i'r diwydiant yng Nghymru."

Fe fydd adroddiad Mr Hargreaves yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Fe fydd mwy am y stori yma ar Politics Show, BBC Un Cymru, dydd Sul am 12pm.



HEFYD
Papurau newydd: Colli swyddi
24 Medi 09 |  Newyddion
Papur yn newid amser cyhoeddi
02 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific