British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Hydref 2009, 05:57 GMT 06:57 UK
Pryder am ofal cleifion canser

Archwiliad meddygol
Roedd yr elusen yn darparu nyrsys arbennigol ar gyfer ysbytai

Mae cyfarwyddwr iechyd mewn ysbyty yn rhybuddio y gallai cleifion ddioddef ar ôl i elusen ganser ddod i ben.

Roedd Gofal Canser Cymru yn arfer darparu nyrsys arbenigol i ysbytai yn ne Cymru.

Ond ym mis Mehefin cyhoeddodd y bod yn rhaid rhoi'r gorau iddi oherwydd diffyg arian.

Dyma'r wythnos ola i'r nyrys weithio yn Ysbyty Felindre, Caerdydd.

Dywedodd Andrea Hague, Cyfarwyddwr Canser Felindre, nad oed gan yr ysbyty ddigon o arian i gyflogi nyrsys eraill.

Bwlch

"Roedd y nyrsys yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r cleifion gan gynnig cefnogaeth a chyngor," meddai Ms Hague.

"Dyw'r arian ddim ar gael ac felly bydd yn rhaid i ni feddwl sut i ddod o hyd i arian ar gyfer cyflogi nyrsys arbenigol.

Dywedodd Ms Hague y byddai gwasanaethau hanfodol fel radiotherapi a chemotherapi a gofal meddygol yn aros yr un fath.

"Ond bydd yna fwlch wrth ddarparu peth o'r gefnogaeth a chyngor oedd y nyrsys yma yn ei gynnig," meddai Ms Hague.

Dywedodd Keith Hawkins o Bont-y-pŵl, Torfaen, fod ei wriag Joy, sydd â thiwmor ar yr ymennydd, wedi bod yn derbyn cymorth Gofal Canser Cymru dros gyfnod o naw mlynedd.

Economi

"Roedd y nyrs yna - 24 awr y diwrnod pe bai ni ei hangen hi.

"Roedd e'n llais cyfeillgar ar ben arall y ffôn.

"Allwch chi ddim poeni ymgynghorwyr drwy'r amser," meddai.

Dywedodd Gofal Canser Cymru, gafodd ei lansio yn Hydref 2005, bod yn rhaid rhoi'r gorau iddi oherwydd bod cyflwr yr economi wedi effeithio ar eu hymdrechion i godi arian.

Roedd yr elusen yn darparu nyrys arbenigol oedd yn gweithio ar y cyd gyda staff yn ysbytai Felindre (Caerdydd), yr Ysbyty Athrofaol (Caerdydd) ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd tua 10 o'r nyrys yn gweithio'n rheolaidd yn Felindre.

Dywedodd Ms Hague fod elusennau fel Tenovus a Macmillan yn darparu gwasanaethau tebyg, ond nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn darparu nyrsys ar gyfer Felindre

Dywedodd Ms Hague fod y rhwydwaith canser yn ne ddwyrain Cymru ar fin cynnal arolwg o'r ddarpariaeth sydd ar gael.



HEFYD
Rhodd o £60,000 i ofal canser
14 Maw 09 |  Newyddion
Ysbyty'n arwain profion cansyr
10 Chwef 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific