Mae Bwletin Ysgol y BBC yn gyfle i ddisgyblion ysgolion uwchradd fentro i faes newyddiaduraeth. Maen nhw'n cael cyfle i greu bwletinau newyddion ar gyfer y teledu, radio neu'r we.
 |
Mae Huw Edwards yn cynnig cyngor i fyfyrwyr
|
Gyda chymorth staff y BBC ac adnoddau'r wefan, gall athrawon helpu eu disgyblion i ddatblygu'r sgiliau newyddiadurol sydd eu hangen i fod yn ohebwyr ysgol. Ar Fawrth 11 2010, Diwrnod y Bwletin Ysgol, bydd ysgolion ar hyd a lled Cymru a'r Deyrnas Unedig yn darlledu eu bwletinau. Fe fydd y rhain yn cael sylw amlwg gan y BBC yn ogystal â chael eu darlledu ar wefannau'r ysgolion. Mae 'na chwe gwers sy'n egluro sut mae newyddiadurwyr proffesiynol yn paratoi newyddion. Yn ystod y gwersi mae Huw Edwards, cyflwynydd newyddion y BBC, yn cynnig cyngor i fyfyrwyr. Fe fydd y gwersi yn helpu athrawon i baratoi'r disgyblion ar gyfer Diwrnod y Bwletin Ysgol. I gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan ewch i
School Report (Saesneg)
|