British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Medi 2009, 15:27 GMT 16:27 UK
Trwydded ar gyfer safle

Pren
Bydd y safle yn llosgi pren a gwastraff pren

Mae pwerdy biomas mwyaf Prydain gam yn nes ar ôl i Asiantaeth Amgylchedd Cymru ganiatáu trwydded.

Ac mae disgwyl i'r safle gwerth £400 miliwn ger Port Talbot gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi 500,000 o gartrefi.

Bydd y safle yn llosgi gwastraff pren.

Mae'r drwydded yn cyfyngu ar allyriadau y datblygwyr Prenergy Power.

Yn y cyfamser, mae ymgyrchwyr wedi dweud eu bod yn poeni na fydd modd glynu wrth y cyfyngiadau.

Yn Rhagfyr 2007 fe gafodd y cwmni ganiatâd Llywodraeth San Steffan i godi'r safle.

Roedd angen trwydded Asiantaeth Amgylchedd Cymru cyn dechrau cynhyrchu ynni.

Rhaid i'r safle ddefnyddio pren wedi ei ailgylchu.

Mae ymgyrchwyr wedi honni y bydd y safle yn effeithio ar iechyd pobl leol.

Gofynnodd mudiad PTRAPS: "Pan fydd y safle'n dechrau cynhyrchu a fydd yn cael ei gau oherwydd nad yw'n cadw at y rheolau?

"Rydyn ni'n credu na ddylai'r drwydded fod wedi ei chaniatáu."

Gwnaed cais i Prenergy Power am sylw.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod wedi penderfynu ar ôl trafod â thrigolion lleol a'r bwrdd iechyd lleol.

Mae cyfyngiadau wedi eu gosod er mwyn diogelu iechyd pobl, meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n hyderus y bydd y pwerdy yn dilyn gofynion a rheolau ar gyfer safle o'r fath."



HEFYD
Aliwminiwm: Gorsaf bwer?
16 Meh 09 |  Newyddion
Tanwydd 'gln' yn creu swyddi?
25 Medi 08 |  Newyddion
350: Ofnau am ddiswyddo
07 Gorff 09 |  Newyddion
Gwrthod pecyn: Siom AC
03 Gorff 09 |  Newyddion
Pwerdai: Gwrthod ceisiadau
19 Maw 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific