Mae Cofnod y Trafodion wedi bod yn ddwyieithog ers sefydlu'r cynulliad yn 1999
|
Cafwyd cyfaddawd yn y ffrae am y drefn gyfieithu yn Siambr y Cynulliad. Ym mis Awst penderfynodd Comisiwn y Cynulliad roi'r gorau i gyfieithu areithiau Saesneg yn llwyr er mwyn arbed tua £250,000 ond wedi i Aelodau Cynulliad a chyrff feirniadu bu ailystyried. Yr wythnos ddiwethaf penderfynodd y comisiwn y byddai'r Cofnod yn gwbl ddwyieithog ond o fewn rhwng tri a 10 niwrnod nid 24 awr. Roedd cyfarfod ddydd Mercher rhwng Comisiynwyr y Cynulliad a'r Aelodau Cynulliad - Alun Davies, Rhodri Glyn Thomas, Paul Davies a Jenny Randerson - oedd wedi llofnodi'r cynnig gafodd ei gyflwyno ar Fedi 21 yn dweud y dylid trin y ddwy iaith yn gyfartal. 3-5 niwrnod Yn ystod y cyfarfod cytunwyd y dylid cyfieithu cofnod trafodion y cyfarfod llawn rhwng tri a phum diwrnod gwaith. Cytunwyd hefyd y bydd y mater yn rhan o adolygiad llawn o'r holl opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog. Bydd yr adolygiad yn dechrau cyn gynted â phosibl, yn cynnwys ymgynghori ag aelodau ac yn dod i ben erbyn diwedd mis Ionawr. Roedd Bwrdd yr Iaith wedi bygwth mynd i gyfraith am fod y drefn gyfieithu'n newid. Mae Cofnod y Trafodion wedi bod yn ddwyieithog ers sefydlu'r cynulliad yn 1999.
|