British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Medi 2009, 06:19 GMT 07:19 UK
Aliwminiwm: Diwedd cynhyrchu

Ffatri Aliwminiwm Môn
Roedd ffatri Aliwminiwm Môn yn un o gyflogwyr mwya'r ynys

Fe fydd aliminiwm yn cael ei gynhyrchu am y tro olaf mewn ffatri ar Ynys Môn.

Dydd Mercher mae'r gwaith o fwyndoddi yn dod i ben.

Fe fydd 390 o bobl yn colli eu swyddi er gwaethaf ymdrech ymgyrchwyr a gwleidyddion i achub y safle dros y misoedd diwethaf.

Yn ôl y rheolwyr, doedd dim dewis ond dod â chynhyrchu i ben ar y safle ar ôl methu â sicrhau cyflenwad rhad o drydan.

Mae 250 o'r gweithwyr yn cael eu diswyddo wrth i 140 gytuno i adael ar delerau gwirfoddol.

Bu'r gwaith yn un o brif gyflogwyr yr ynys am bron 40 mlynedd.

Roedd llywodraethau San Steffan a Chymru wedi cynnig pecyn o bron £50 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd i achub y ffatri a diogelu swyddi.

Dim swyddi

Roedd 500 o bobl yn arfer cael eu cyflogi ar y safle.

Roedd gan y cwmni gytundeb i gael trydan yn rhad o atomfa'r Wylfa ond gan fod dyfodol ansicr i'r atomfa doedd y cwmni ddim wedi cael cytyndeb newydd.

Oherwydd hynny fe fydd y cyflenwad trydan yn cael ei ddiffodd ddydd Mercher.

Un o'r gweithwyr fydd yn gadael ydi Eifion Fôn Jones. "Does dim ots gen i, ond bechod am y bobl ifanc," meddai.

Aliwminiwm Môn
Llai na 100 o bobl fydd yn dal i weithio

"Fe wna i chwilio am job, ond yn 59 oed, dwi ddim yn meddwl bod 'na obaith cael wbath yn fy oed i."

Dywedodd Gary Williams fod 'na flynyddoedd cyn y byddai'n meddwl am ymddeol ond y byddai rhaid iddo fodloni ar gyflog llai os am aros ar yr ynys.

"Dwi yma (y gwaith) ers bron 30 mlynedd ac wedi bod yn chwilio am waith ond does 'na ddim byd tebyg i hyn.

"Mae 'na gyflogau llai am oriau hir ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth i gael bwyd ar y bwrdd."

Yr ofnau yw y bydd dod â'r gwaith i ben yn effeithio ar y gymuned.

'Yn araf'

"Fe wnaiff hyn effeithio ar fy musnes," meddai Ifan Owen Jones o siop Penrhos Hire.

"Mae gan Aliwminiwm Môn gyfri yma a tua phump o gontractwyr tu allan efo cyfri.

"Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn araf, lawr tua 30% o'r flwyddyn flaenorol."

Yn y cyfamser, mae rhai wedi codi pac. Mae Alan Williams yn symud i Saltney ger Caer.

"Dwi wedi gorfod mynd i ffwrdd i Sir y Fflint, wedi cychwyn busnes fy hun, adeiladu tai ...

"Yr unig le sydd 'na yn Sir Fôn ydi Wylfa ... roedd rhaid gadael ... does 'na ddim gwaith yna."



HEFYD
Ergyd i economi Ynys Môn
30 Medi 09 |  Newyddion
Diwedd cyfnod i Aliwminiwm Môn
30 Medi 09 |  Newyddion
Aliwminiwm: Cais am orsaf bwer
23 Medi 09 |  Newyddion
Aliwminiwm: Gwaith yn dod i ben
13 Awst 09 |  Newyddion
Alwminiwm: Protest yn erbyn cau
19 Medi 09 |  Newyddion
Aliwminiwm: 250 i golli gwaith
16 Gorff 09 |  Newyddion
'Pryder am 500 o swyddi'
15 Ion 09 |  Newyddion
Wylfa: 'Estyn oes atomfa'
25 Chwef 09 |  Newyddion
Ffatri: Ymchwiliad i dân
13 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific