British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 29 Medi 2009, 06:36 GMT 07:36 UK
Tref yn barod ar gyfer Prifwyl

Tref Wrecsam
Mae 'na edrych mlaen at ymweliad yr Eisteddfod 'r dref

Fe fydd y gwaith o baratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2011 yn Wrecsam yn dechrau nos Fawrth.

Hwn fydd y tro cynta mewn 30 o flynyddoedd i'r Ŵyl ymweld ag ardal Wrecsam.

Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol bwriad y cyfarfod cyhoeddus fydd dechrau ar y gwaith o drefnu'r ŵyl yn lleol gan annog trigolion i gymryd rhan ym mhwyllgorau a'r gwaith trefnu.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir fferm Lower Bers.

"Mae'n anodd credu bod dros 30 mlynedd wedi pasio ers i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag ardal Wrecsam," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.

"Rydym ni a phobl yr ardal yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddychwelyd i'r ardal yn 2011.

"Rydym yn annog pobl leol i ddod i'r cyfarfod i ddatgan eu diddordeb ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau a fydd yn digwydd yn lleol dros y misoedd nesaf.

"Rydym yn awyddus i weld cynifer o drigolion yr ardal yn cymryd rhan yn y gweithgareddau codi proffil a chyda'r gronfa leol â phosibl."

Bydd y cyfarfod nos Fawrth am 7pm yn cael ei gynnal yn Ysgol Clywedog ar Ffordd Rhuthun, tafliad carreg o'r safle.

Mae tua 160,000 o ymwelwyr yn ymweld â'r brifwyl yn flynyddol.

Fe fydd yr Eisteddfod yn 2011 yn cael ei chynnal o Orffennaf 30 tan Awst 6.



HEFYD
Cyhoeddi lleoliad Prifwyl 2011
06 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific