British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Medi 2009, 08:25 GMT 09:25 UK
Rhodri: 'Dim penderfyniad eto'

Rhodri Morgan
Bydd yn parhau i fod yn AC Gorllewin Caerdydd tan 2011

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi dweud nad yw wedi penderfynu pryd y bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd.

Ar raglen Post Cynta BBC Radio Cymru ddydd Llun dywedodd nad oedd yn gallu rhoi dyddiad gan nad oedd ei hun wedi penderfynu.

Ychwanegodd y byddai angen trafod y mater â swyddogion y Blaid Lafur yng Nghymru.

Ddydd Sul fe anerchodd gynhadledd flynyddol Llafur am y tro olaf fel arweinydd ei blaid yng Nghymru.

Ond ni ddywedodd pryd yn union y byddai'n rhoi'r gorau i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru na Phrif Weinidog Cymru.

Dywedodd wrth gynadleddwyr yn Brighton: "Fe fydda i'n cyhoeddi cyn hir yr union fanylion am sut a phryd y bydd fy olynydd yn cymryd yr awenau.

"Er bod cyfnod fy arweinyddiaeth i yn dod i ben, mae rôl y Blaid Lafur yn rhoi arweiniad yng Nghymru ac ym Mhrydain yn sicr ddim yn dod i ben yn fuan".

Wrth i'r Prif Weinidog Gordon Brown ei wylio o'r llwyfan, dywedodd mai datganoli oedd y digwyddiad pwysicaf yng Nghymru ers y Chwyldro Diwydiannol.

Yn Gymraeg dywedodd wrth gynadleddwyr: "Diolch yn fawr am eich cefnogaeth ddi-dor dros y 10 mlynedd diwethaf".

Ennill

Yn y gynhadledd anogodd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, gynrychiolwyr i gredu y byddai'r Blaid Lafur yn ennill yr etholiad nesaf.

Ar Chwefror 9, 2000, y daeth Mr Morgan yn Brif Ysgrifennydd Cymru cyn dod yn Brif Weinidog Cymru.

Ym mis Chwefror y llynedd dywedodd y byddai'n ymddeol o'r swydd o amgylch ei ben-blwydd yn 70 oed ar Fedi 29 2009.

Ond ar ddydd ei ben-blwydd - dydd Mawrth - fe fydd Mr Brown yn annerch y gynhadledd ac mae rhai sylwebwyr o'r farn na fyddai Mr Morgan am dynnu sylw oddi ar araith olaf y Prif Weinidog gerbron cynhadledd ei blaid cyn yr etholiad cyffredinol.

Fe fydd Mr Morgan yn parhau i fod yn AC Gorllewin Caerdydd tan yr etholiad nesaf yn 2011.



HEFYD
'Y dyn a fentrodd yn hwyr'
25 Mai 07 |  Newyddion
Hart yn falch o gefnogaeth
24 Medi 09 |  Newyddion
Araith ar y Maes: 'Dyfodol Llafur'
05 Awst 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific