Byddai 300 yn parhau i gael eu cyflogi yn yr adran ymchwil a datblygu
|
Mae pryder am 216 o swyddi mewn ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae Fforwm Ceir Cymru yn dweud eu bod nhw'n credu y bydd 216 o staff Harman International yn cael eu diswyddo wrth i'r gwaith symud i Hwngari dros y 18 mis nesaf. Mae mwy na 500 o bobl yn gweithio yn y ffatri sy'n cynhyrchu unedau sain ar gyfer ceir moethus gan gynnwys Mercedes a BMW. Byddai 300 yn parhau i gael eu cyflogi yn yr adran ymchwil a datblygu. Mae'r BBC wedi cysylltu â'r cwmni i geisio cael eu hymateb.
|