British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Medi 2009, 11:36 GMT 12:36 UK
Protest glo brig: Arestio dau

Ffos-y-Fran
Mae'r safle glo brig ger Ffos-y-Fran yn edrych dros Ferthyr Tudful

Cafodd dau brotestiwr newid hinsawdd eu harestio ar ôl atal gwaith ar safle glo brig dadleuol yn ne Cymru.

Roedd dau ddyn ynghrog ar rwyd o dan bont newydd ger safle Ffos y Fran yn ymyl Merthyr Tudful Ddydd Mercher.

Maen nhw wedi cael eu harestio am dresmasu dybryd.

Fe gadarnhaodd Miller Argent, y cwmni sy'n gyfrifol am y safle, y bu 242 o weithwyr y safle yn segur am y diwrnod.

Fis Awst fe sefydlwyd gwersyll newid hinsawdd yn ymyl y safle ar gyfer protest dri diwrnod.

Fe fydd safle Ffos y Fran yn cloddio 10 miliwn tunnell o lo dros 17 mlynedd.



HEFYD
Protest glo brig: Arestio dau
01 Ebr 08 |  Newyddion
Tren stêm: Am gael glo o Gymru
17 Medi 09 |  Newyddion
Protest safle glo brig yn y Senedd
20 Mai 08 |  Newyddion
Ymchwiliad i gynllun glo brig
26 Awst 04 |  Newyddion
Rali yn erbyn safle glo brig
05 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific