John Lewis Caerdydd fydd siop John Lewis fwyaf ond un y tu allan i Lundain
Mae siop adrannol fwyaf Cymru wedi agor ddydd Iau.
John Lewis Caerdydd fydd siop fwyaf ond un y cwmni y tu allan i Lundain.
Bydd 700 o staff yn gweithio yno.
Mae'n rhan o Ganolfan Siopa Dewi Sant 2, datblygiad gwerth £675 miliwn sy'n uno gyda'r ganolfan siopau presennol.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi canmol John Lewis am ei agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg yn y siop newydd.
Fe gymeradwyodd y Bwrdd John Lewis am ystyried dwyieithrwydd yn y trefniadau cynnar pan yn dylunio a chynllunio ac am wneud hyn yn rhan hanfodol o'r modd y bydd John Lewis yn gweithredu bob tro.
Bydd yr arwyddion yn y siop newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, bydd y staff sy'n siarad Cymraeg yn cyflwyno eu hunain drwy wisgo bathodyn arbennig a bydd cyhoeddiadau agor a chau y siop yn Gymraeg ac yn Saesneg.
100 o siopau
Bydd y ganolfan yn agor yn nhymor yr hydref eleni.
Fe fydd dros 100 o siopau newydd yno.
Wedi ei gwblhau fe fydd y ganolfan newydd yn gorchuddio traean o ganol y ddinas.
Dywedodd Liz Mihell, rheolwr gyfarwyddwraig John Lewis Caerdydd fod yr adeilad newydd wedi creu argraff dda yn barod: "Mae'r siop newydd yn anhygoel ac fe fydd wir yn ein helpu ni gyda gwneud y profiad o siopa yn John Lewis yng Nghaerdydd yn arbennig.
"Gall cwsmeriaid edrych ymlaen at siopa ar gyfer popeth dan yr un to mewn siop anhygoel sy'n pontio pedwar llawr".
Bydd y siop ar agor rhwng 9:30am a 8pm yn ystod yr wythnos, rhwng 9:30am a 6pm ar ddydd Sadwrn ac o 10.30am ar ddydd Sul.
Ers bron i dair blynedd mae'r gwaith o ehangu'r ddarpariaeth siopau yn y ddinas wedi bod ar y gweill.
Y gobaith yw y bydd Caerdydd yn cael ei thrawsnewid i fod yn atyniad siopau rhyngwladol ac yn un o'r pum prif ganolfan siopau ym Mhrydain.
Ymhlith siopau fydd yn agor yn y ganolfan y mae Hugo Boss, Kurt Geiger, Radley, Reiss, Ghost, All Saints a Crabtree & Evelyn.
Gwyliwch fisoedd o waith adeiladu Canolfan Siopau Dewi Sant 2 mewn tri munud.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.