British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 22 Medi 2009, 16:25 GMT 17:25 UK
Safle carchar: 'Dim diddordeb'

Cyn-safle Ferodo ger Caernarfon
Cyn-safle Ferodo ger Caernarfon

Mae un o adrannau Llywodraeth San Steffan wedi dweud nad oes diddordeb mewn prynu safle ar gyfer carchar.

Dywedodd Maria Eagle, y Gweinidog dros Garchardai: "Ar ôl ystyriaeth ofalus penderfynodd y Weinyddiaeth dros Gyfiawnder beidio â phrynu hen safle Dynamex ger Caernarfon."

Hwn oedd hen safle ffatri Ferodo.

Ym mis Chwefror cyhoeddwyd fod y safle wedi ei ddewis ar gyfer carchar newydd yng Nghymru.

Ar y pryd dywedodd y Gweinidog Carchardai, David Hanson, eu bod wedi ystyried sylwadau wrth ymgynghori, y galw am lefydd, lleoliad a nodweddion y safle.

700 o swyddi

"Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau i'r trethdalwr," meddai Ms Eagle ddydd Mawrth.

Roedd gwleidyddion wedi honni y byddai 700 o swyddi'n cael eu creu ac y byddai £10m yn fwy y flwyddyn yn yr economi leol.

Mae llefarydd ar ran Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi dweud ei fod yn siomedig iawn ac yn ymroddedig o hyd i garchar yn y gogledd.

Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Hywel Williams ei fod yn "siomedig".

"Roeddem yn ymwybodol fod ambell i broblem gyda'r safle," meddai Ms Eagle ddydd Mawrth.

'Ddim yn addas'

"Ac roedd ein trefn diwydrwydd dyladwy yn golygu nad oedd yn addas i'w ddatblygu yn garchar.

"Wrth edrych am safle newydd, proses a fydd yn agored ac yn un o ymgynghori, fe fyddwn yn gweithio gyda Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill i ddod o hyd i safleoedd newydd yng Nghymru."

Dywedodd nad oedd y penderfyniad i dynnu'n ôl yn effeithio ar gynlluniau i werthu safle hen goleg hyfforddi'r heddlu yng Nghwmbrân na chwaith yn effeithio ar y bwriad i ddarparu 96,000 o lefydd mewn carchardai erbyn 2014.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Carchar yn werth £17m i'r economi
06 Chwef 09 |  Newyddion
Carchar newydd i Gaernarfon
05 Chwef 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific