British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 20 Medi 2009, 08:58 GMT 09:58 UK
Damwain farwol: ApÍl am dystion

Bu farw dau o bobl yn dilyn damwain ffordd yng nghanolbarth Cymru.

Fe darodd dau gerbyd yn erbyn ei gilydd ar ffordd y B4602 ger Aberhonddu.

Mae'n debyg i'r ceir fynd ar dân yn dilyn y gwrthdrawiad.

Roedd y ddau a fu farw yn teithio yn yr un car.

Cafodd dau berson oedd yn teithio yn y car arall eu cludo i Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni.

Bu'r ffordd ar gau am rai oriau tra bod yr heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific