British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 20 Medi 2009, 08:45 GMT 09:45 UK
Bachgen mewn cyflwr difrifol

Mae bachgen yn ei arddegau yn parhau mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei achub o'r môr ger Y Barri.

Dywed Gwylwyr y Glannau yn Abertawe iddynt dderbyn galwad am 4pm ddydd Sadwrn.

Roedd tri o fechgyn wedi mynd i drafferthion ger Ynys y Barri.

Fe ddaeth criw bad achub o hyd i un o'r bechgyn a rhoi cymorth cyntaf iddo.

Mae'n debyg ei fod yn anywybodol pan cafwyd hyd iddo.

Aed ag o mewn hofrennydd Sea King i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Fe lwyddodd y ddau fachgen arall i nofio i'r lan.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau bod y ddau yn diodde o effeithiau'r oerfel.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific