British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Medi 2009, 06:03 GMT 07:03 UK
Sir i roi prawf ar gyfrifiad 2011

Sampl o holiadur Cyfrifiad 2011
Roedd 'na anfodlonrwydd nad oedd y blwch ar gael yn 2001

Bydd trigolion Ynys Môn yn rhan o ymarferiad ym mis Hydref cyn Cyfrifiad 2011.

Am y tro cyntaf erioed bydd modd nodi a yw person yn Gymro neu'n Gymraes gyda'r blwch Cymry yn ymddangos.

Bydd mwy na 33,000 yn llenwi'r holiadur o 57 cwestiwn ar yr ynys.

Fe fydd yr ymarferiad ar Hydref 11 er mwyn profi'r drefn fydd yn cael ei defnyddio yn 2011.

Fe fydd yr ymarferiad yng Nghaerhirfryn ac yn ardal Newham yn Llundain hefyd.

Yn 2001 roedd 'na gryn anniddigrwydd nad oedd y blwch Cymry wedi cael ei gynnwys ar y ffurflen gan arwain at nifer yn gwrthod llenwi'r ffurflenni.

Roedd Albanwyr yn gallu nodi eu cenedl ar eu ffurflenni nhw.

Fel arfer, mae 'na gwestiwn ychwanegol ar y ffurflenni yng Nghymru sy'n gofyn i bobl am eu defnydd o'r iaith Gymraeg.

Ond fe fydd modd i bobl gyfri eu hunain yn Gymry hyd yn oed os ydyn nhw'n byw yn Lloegr.

Cwynion

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol mai'r ffaith nad oedd y blwch wedi cael ei gynnwys ar y ffurflen yn 2001 arweiniodd at y nifer mwyaf o gwynion.

Mae disgwyl i'r Cyfrifiad nesaf gael ei gynnal ym mis Mawrth 2011.

Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Aelod Cynulliad Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, fydd yn lansio'r ymgyrch ddydd Gwener er mwyn annog trigolion yr ynys i lenwi'r holiadur ym mis nesaf.

Mae'r Cyfrifiad yn ffynhonell allweddol o wybodaeth ar gyfer llywodraeth leol a chanolog ac yn cael ei ddefnyddio i greu polisïau, cynlluniau ac i ddosbarthu adnoddau yn effeithiol.

Yn 2000 fe wnaeth aelodau'r cynulliad pleidleisio'n unfrydol dros gynnwys y blwch "Cymry" ar y ffurflen yn 2001 ond roedd hi'n rhy hwyr i'w newid.

Mae disgwyl i'r Cyfrifiad gostio dros £300 miliwn o'i gymharu â £200 miliwn yn 2001.

Fe fydd yn rhaid i'r Senedd yn San Steffan gymeradwyo'r cwestiynau cyn iddyn nhw fod ar ffurflenni 2011.



HEFYD
Deall mwy am hanes ein cyndeidiau
09 Meh 09 |  Newyddion
Canlyniadau Cyfrifiad 2001
13 Chwef 03 |  Newyddion
'Cynnydd yn y siaradwyr Cymraeg'
13 Tach 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific