British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Medi 2009, 07:34 GMT 08:34 UK
Band eang: Tref yn arloesi

Cyfrifiadur cartref
Bydd y dechnoleg yn caniatŠu i fwy dderbyn band eang

Fe fydd tref yng Nghymru ymhlith 10 yng ngwledydd Prydain lle bydd technoleg newydd o fudd i fannau lle mae'n anodd derbyn band eang.

Bydd Llanfyllin ym Mhowys yn profi technoleg fel y bydd modd cynnig y gwasanaeth dros fwy o bellter.

Mae'r dechnoleg yn darparu band eang hyd at 7.5 milltir (12 cilomedr) o'r gyfnewidfa - mwy na dwbl y sefyllfa bresennol.

Eisoes mae pryderon wedi bod am nifer y lleoedd yng nghefn gwlad Cymru lle nad oes modd derbyn band eang.

Dywedodd British Telecom, sy'n trefnu'r prosiect, fod treialon yn Inverness a Dingwall yn Yr Alban wedi bod yn llwyddiannus.

'Llawer o ardaloedd'

Dywedodd cyfarwyddwr BT yng Nghymru, Ann Beynon: "Mi all y dechnoleg estyn band eang i lawer o'r ardaloedd lle nad oes modd derbyn band eang ar hyn o bryd.

"Rydan ni'n awyddus i gydweithio gydag awdurdodau lleol a rhanbarthol a chyrff eraill ag arian i drafod sut y mae modd estyn y dechnoleg i fwy o dai yng Nghymru sydd ddim yn derbyn band eang ar hyn o bryd."

Dywedodd Dirprwy Brîf Weinidog Cymru Ieuan Wyn Jones fod hyn yn newyddion positif iawn i drigolion a busnesau yng Nghymru.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i weithio gyda'r diwydiant i ganolbwyntio ar yr ardaloedd eraill yng Nghymru lle nad oes modd derbyn band llydan."



HEFYD
Gwella cyswllt band eang
28 Tach 08 |  Newyddion
Band llydan: Galw am weithredu
27 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific