Mae storfa gwastraff niwclear lefel ganolig wedi ei hagor
|
Mae storfa fydd yn cynnwys gwastraff niwclear lefel ganolig hen orsaf niwclear Trawsfynydd wedi cael ei hagor. Fe fydd yn cynnwys hyd at 333 o gratiau yn llawn o wastraff yn gymysg â choncrid. Dywedodd rheolwyr y safle na ddylai pobl leol boeni oherwydd bod digon o fesurau diogelwch. Ond mae ymgyrchwyr sy'n erbyn gorsafoedd niwclear newydd wedi dweud bod costau dadgomisiynu'n codi. Dechreuodd y gwaith dadgomisynu yn 1993. Bydd y gwastraff yn cael ei gadw yno tan i Brydain ddod o hyd i fan canolog lle bydd gwastraff yr holl atomfeydd. Yr Aelod Cynulliad lleol Arglwydd Elis Thomas agorodd y safle. Dywedodd ei fod am y tro cynta yn dweud ei fod o blaid ail atomfa ar safle Wylfa B yn Ynys Môn. Byddai hyn, meddai, yn defnyddio sgiliau technegol sydd eisoes ar gael yn y gogledd orllewin. Mae ei sylwadau yn groes i bolisi Plaid Cymru. Yn 2005 dywedodd maniffesto'r blaid eu bod yn erbyn gorsafoedd niwclear am nad oedd "modd diogel o waredu gwastraff gwenwynig iawn." Mae disgwyl i safle Trawsfynydd gael ei glirio'n llwyr erbyn 2096.
|