Confucius yw un o athronwyr pwysicaf China mewn hanes
Gellir gweld cerflun o'r athronydd Confucius o China yng Nghymru erbyn hyn. Cafodd y cerflun, sy'n rhodd gan Ffederasiwn Ewropeaidd o Sefydliadau Chineaidd, ei osod ym Mharc Singleton, Abertawe. Fe wnaeth y ffederasiwn ei roi yn rhodd i bobl Abertawe. Dyma'r cerflun cyntaf yng Nghymru gafodd ei roi gan y ffederasiwn a'r trydydd yn y DU. Mae'r cerflun wedi cael ei gerfio o law. Confucius (551 CC - 479 CC) yw un o athronwyr pwysicaf China mewn hanes, a'i feddyliau yn ffurfio sail holl ddysgeidiaeth China hyd at y 19eg Ganrif. Dywedodd Tian Xiaogang, Gweinidog Materion Addysg Llysgenhadaeth China bod hi'n bleser cael ymweld ag Abertawe "Mae'n braf gael y cyfle i ddadorchuddio'r cerflun nodedig o Confucius, symbol o China a diwylliant Chineaidd. "Mae'r anrheg yn cydnabod llwyddiant y cysylltiad dwfn a chryf rhwng China a Chymru." Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio ddydd Mawrth mewn seremoni ar arddull Chineaidd, gyda dawnswyr Chineaidd uncorn a drymiwr yn arwain gwesteion ar orymdaith tuag at y cerflun.
|