British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Medi 2009, 16:12 GMT 17:12 UK
Sain Tathan: 'Diddymu canolfan'

Arwydd safle Sain Tathan
Mae Dr Cable am weld yr arian yn cael ei fuddsoddi rhywle arall

Mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion sy'n ymwneud â'r Trysorlys wedi dweud bod angen diddymu cynlluniau i godi canolfan hyfforddi ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Vince Cable bod y cytundeb £13 biliwn i greu canolfan hyfforddi yn Sain Tathan yn "rhy ddrud".

Fe wnaeth Mr Cable y cyhoeddiad yn ei ddogfen ar gyfer gwella economi'r Deyrnas Unedig.

Mae'n cynnwys cwtogi ar wariant y llywodraeth ac yn galw am ddileu'r cynllun yn Sain Tathan.

Yn flaenorol, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnogi'r cynllun.

Fe fyddai'r cytundeb yn golygu codi academi hyfforddiant gan greu miloedd o swyddi.

Ond dywedodd Dr Cable bod y cynllun yn "rhy ddrud".

Yn ôl llefarydd ar ran grwp y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad - dydy sylwadau Mr Cable ddim yn cynrychioli polisi swyddogol y blaid.

Ond ychwanegodd os na fyddai'r £13 biliwn yn cael ei arbed drwy ddiddymu'r cynllun yma y byddai rhaid canfod yr arian o rywle arall a allai gael effaith hefyd ar Gymru.



HEFYD
Canolfan hyfforddi: Protest
26 Ebr 08 |  Newyddion
Sain Tathan: Cadarnhau cynllun
25 Hyd 07 |  Newyddion
Ergyd i ganolfan hyfforddi
31 Ion 08 |  Newyddion
Academi: 'Hwb enfawr'
18 Ion 07 |  Newyddion
Ennill brwydr: 5,000 o swyddi
17 Ion 07 |  Newyddion
5,000 o swyddi: 'Buddugoliaeth'
17 Ion 07 |  Newyddion
Academi: Hwb 'enfawr' i ardal
27 Hyd 06 |  Newyddion
Trafod dyfodol safle milwrol
22 Mai 06 |  Newyddion
Cadarnhau diswyddiadau Dara
03 Chwef 06 |  Newyddion
Adolygiad: Swyddi mewn peryg?
21 Rhag 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific